Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hanes datganoli iechyd, heriau heddiw ac atebion fory
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 麻豆官网首页入口 Cymru
Fel rhan o gyfres o erthyglau gan Cymru Fyw i nodi refferendwm datganoli 1997 mae'n gohebydd iechyd, Owain Clarke, wedi bod yn edrych ar yr heriau sy'n wynebu'r byd iechyd ers i'r maes gael ei ddatganoli i Gymru.
Mae wedi bod yn siarad gyda'r arbenigwyr ac yn gofyn beth yw'r atebion posib ar gyfer y dyfodol.
Y stori
20 mlynedd yn 么l fe bleidleisiodd pobl Cymru - o drwch blewyn - dros ddatganoli.
O'r holl feysydd polisi gafodd eu hetifeddu gan y llywodraeth newydd - gellid dadlau mai iechyd sydd wedi cael y mwyaf o sylw.
Wedi'r cyfan mae 48.4% o holl gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar iechyd a lles - 拢7.3bn i gyd.
Mae'n werth nodi mai dim ond 34% o gyllideb yr hen Swyddfa Cymru oedd yn cael ei wario ar wasanaethau iechyd.
Yn 么l y rhai oedd yn ymgyrchu dros bleidlais 'Ie' 20 mlynedd yn 么l, byddai datganoli yn caniat谩u i lywodraeth yng Nghymru deilwra polis茂au fyddai'n fwy addas ar gyfer anghenion y genedl.
Ac yn sicr mae 'na enghreifftiau, ym myd iechyd, dros yr 20 mlynedd ddiwetha' lle mae Cymru wedi torri ei chwys ei hun.
Yn Lloegr yn y degawd wedi datganoli roedd 'na bwyslais mawr ar roi dewis i gleifion ac annog cystadleuaeth rhwng cyrff iechyd. Penderfynodd Llywodraeth Cymru (fel Llywodraeth yr Alban) i ddiddymu'r farchnad fewnol.
Arweiniodd hynny at sefydlu saith bwrdd iechyd mawr yn 2009 - sy'n gyfrifol am fwy neu lai pob agwedd o ofal iechyd yn eu dalgylchoedd.
Roedd 'na benderfyniadau nodedig eraill hefyd, e.e. cael gwared ar ffioedd presgripsiwn, anelu at ddiddymu taliadau am barcio mewn ysbytai, a sefydlu Comisiynydd Pobl H欧n.
Yn fwy diweddar fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth newydd i roi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried lles cenedlaethau'r dyfodol. Cafodd hyn ei ddisgrifio, gan y Cenhedloedd Unedig, fel y polisi cyntaf o'i fath yn y byd.
Ond 20 mlynedd wedi datganoli, beth yw'r prif heriau sy'n wynebu'r system iechyd o fewn y ddau ddegawd nesaf?
Yn ddiweddar, fe rybuddiodd panel o arbenigwyr fod y system iechyd a gofal yng Nghymru yn anghynaladwy yn ei ffurf bresennol.
Yr heriau heddiw
Poblogaeth sy'n heneiddio
- Cymru sydd 芒'r canran uchaf o bobl dros 65 mlwydd oed yn y DU;
- Mae'r ganran honno'n cynyddu'n gynt nag yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon;
- Erbyn 2039 fe fydd 44% yn rhagor o bobl dros 65 oed yng Nghymru o'i gymharu 芒 nawr, gyda bron i 25% yn ychwanegol yn byw 芒 chyflyrau iechyd hir dymor.
Arian
- Os nad yw costau na'r defnydd o wasanaethau yn gostwng fe fyddai angen i wariant ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gynyddu 3.2% y flwyddyn i ateb y galw;
- Angen cynnydd o 4.1% y flwyddyn ar wariant gofal cymdeithasol.
Gweithlu
- 218,000 yn bobl o fewn y sector iechyd a gofal yng Nghymru, sef 15% o holl swyddi'r wlad;
- Prinder penodol o rai arbenigwyr ysbytai yng Nghymru, er enghraifft meddygon plant a meddygon brys;
- Nifer y meddygon teulu wedi aros tua'r un lefel yn ystod y blynyddoedd dwetha' er bod eu baich gwaith wedi cynyddu;
- Prinder sylweddol o staff yn y sector gofal ac mae 'na bryder am effeithiau Brexit ar recriwtio staff iechyd a gofal.
Perfformiad
- Yn 么l arolygon mae naw claf o bob 10 yn hapus 芒'r gofal gan feddyg teulu neu mewn ysbyty;
- Astudiaethau rhyngwladol yn awgrymu fod gwelliannau yn digwydd mewn sawl maes, a Chymru yn perfformio'n debyg i wledydd eraill y DU;
- Cyfraddau'r marwolaethau y gellid fod wedi'u hosgoi 16% yn uwch yng Nghymru o'i gymharu 芒 Lloegr;
- Y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn methu 芒 chyrraedd nifer helaeth o dargedau aros am driniaeth.
Edrych ymlaen
20 mlynedd wedi datganoli fe ofynnon ni i arbenigwyr beth sydd angen newid os yw'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru am fod yn gynaliadwy am yr 20 mlynedd nesa'.
Dyma safbwynt yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Abertawe.
Yn 么l Awen Iorwerth, Llawfeddyg Ymgynghorol ac Uwch-ddarlithydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae angen cynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
Mae Dr Ian Harris, meddyg teulu sydd yn rhan o Gymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru, yn gobeithio y bydd pobl yn medru cael help meddygol yn gyflym ac am ddim.