Cynllun metro 拢1bn i 'haneru amser teithio' i Abertawe

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gallai amseroedd teithiau tr锚n rhwng Abertawe a Chaerdydd haneru i 30 munud pe bai'r brif linell yn cael ei adfer, yn 么l un arbenigwr ar drafnidiaeth.

Dywedodd yr Athro Mark Barry, a gynigiodd gynllun Metro De Cymru, y gallai system metro gwerth 拢1bn o amgylch Abertawe drawsnewid cysylltedd y ddinas a'i helpu i greu mwy o gyflogaeth.

Mae'r Athro Barry hefyd wedi awgrymu dod a'r brif linell reilffordd o Bort Talbot yn syth i Abertawe.

Cafodd cynllun i ddrydaneiddio'r llinell reilffordd i Abertawe ei ddileu ym mis Gorffennaf.

Er y byddai'r cynllun yn golygu mynd a'r brif linell o Gastell-nedd, dywedodd y byddai'r datblygiad yn talu'i ffordd mewn system metro gyda mwy o wasanaethau yn rhedeg o Gastell-nedd i'r ddinas.

Ychwanegodd y byddai gorsafoedd newydd yn gwasanaethu ardaloedd SA1, y campws addysg newydd ar Ffordd Fabian a Stadiwm Liberty ymysg eraill.

Ffynhonnell y llun, Google

Yn ei gynnig, mae'r Athro Barry yn galw am wneud Gorsaf Abertawe yn orsaf drwodd yn hytrach na therfynfa, i leihau amseroedd teithio ymlaen i orllewin Cymru.

Mae hefyd yn cynnig ymgorffori llinell Dyffryn Nedd i rwydwaith newydd, sydd ar hyn o bryd yn cario trenau cludo nwyddau, a mwy o wasanaethau rhanbarthol i Lanelli a Phort Talbot.

Dywedodd yr Athro Barry y byddai'r amser teithio yn llai i Gaerdydd, ynghyd 芒 thrydanu'r llinell o Gaerdydd i Paddington, yn gweld amseroedd teithio o Abertawe i Lundain yn torri i ddwy awr a 15 munud.

Dywedodd wrth 麻豆官网首页入口 Cymru: "Byddai'r achos busnes yn llawer cryfach na phrosiect trydaneiddio yn unig.

"Rydyn ni'n s么n am 拢1biliwn, ond yn fy mhrofiad i, os oes gennych brosiect da ac achos busnes da, mae'r arian yn hawdd ei ddarganfod".