麻豆官网首页入口

'Myfyrwyr yn cymryd benthyciadau i osgoi llety gwael'

  • Cyhoeddwyd
myfyriwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryder bod llawer yn ei chael hi'n anodd talu rhenti uchel

Mae corff sy'n cynrychioli myfyrwyr yn dweud fod rhai yn cymryd benthyciadau byrdymor i fyw mewn fflatiau moethus er mwyn osgoi llety gwael.

Ers mis Ionawr mae cynlluniau wedi'u cyflwyno i adeiladu tua 3,500 o ystafelloedd myfyrwyr newydd yn Abertawe a Chaerdydd.

Dywedodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) bod llawer yn ei chael hi'n anodd talu rhenti uchel mewn ymgais i beidio 芒 byw mewn tai o safon is.

Yn 么l yr ymgynghorydd eiddo, David Feeney, dyw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ddim yn sylweddoli difrifoldeb eu dyled.

1,700 o ystafelloedd

Yn 2017-18 yn unig bydd tua 1,700 o ystafelloedd myfyrwyr newydd yn agor yng Nghaerdydd, gyda'r mwyafrif yn fflatiau stiwdio mewn adeiladau uchel yng nghanol y ddinas, gan gynnwys tua 450 o ystafelloedd yn yr adeilad talaf yng Nghymru ger siop John Lewis.

Mae fflat stiwdio yn natblygiad Fusion ar Heol Casnewydd, gyda sinema, ystafell fwyta preifat a champfa, yn costio 拢177.50 yr wythnos - neu tua 拢9,000 y flwyddyn - tra gall ystafell t欧 traddodiadol i fyfyrwyr gostio llai na 拢50 yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Rio/Watkin Jones Group
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae datblygwyr wedi cael caniat芒d cynllunio i godi llety 42 llawr i fyfyrwyr yng nghanol Caerdydd

Dywedodd Cerith Rhys-Jones o NUS Cymru nad oes llawer o fyfyrwyr yn gallu fforddio llety moethus, a'u bod yn aml yn cael eu gorfodi i fyw mewn eiddo gyda llygod mawr a lleithder.

Er bod landlordiaid yn ddarostyngedig i reolau Llywodraeth Cymru - o dan gynllun Rhentu Doeth Cymru - a bod safonau'n gwella, dywedodd bod nifer enfawr yn gorfod "syrffio soffas" neu ddibynnu ar rieni am help.

"Nid nifer bychan o fyfyrwyr sy'n gwneud ceisiadau am gardiau credyd a benthyciadau byr dymor ac yn mynd i drafferthion ariannol dros bob math o bethau, gan gynnwys llety," meddai.

"Mae myfyrwyr yn dymuno cael tai addas.

"Fe fydd 'na rai sydd 芒'r arian i edrych ar y datblygiadau newydd 'ma yng Nghaerdydd, ond mae yna lawer o bobl yn cael trafferth i ddod o hyd i'r arian, ac sydd ond angen cartref y gallant fforddio byw ynddo."

'Cyrraedd y safon'

Ychwanegodd Mr Rhys-Jones fod llawer o fyfyrwyr wedi cychwyn yn y brifysgol heb unrhyw syniad sut i gyllidebu, a bod angen dysgu'r sgil mewn ysgolion.

"Mae angen i bob llety gyrraedd y safon, yn hytrach na bod un ai yn wael neu'n ddrud a moethus."

Er bod dwsinau o geisiadau yn gweithio eu ffordd trwy'r system gynllunio, dywedodd Mr Feeney bod angen o leiaf 5,000 yn rhagor o ystafelloedd yng Nghaerdydd i ddelio 芒'r cynnydd mewn galw.

"Mae miloedd o fyfyrwyr yn byw mewn Tai Amlfeddiannaeth fyddai o bosib yn fodlon symud i le gwell pe bai'r pris yn iawn," meddai.

"Mae'r genhedlaeth yma yn uchelgeisiol, ond mae gwahaniaeth mawr rhwng y t芒l sy'n cael ei godi a'r hyn y gallan nhw fforddio."