麻豆官网首页入口

Menter y merched

  • Cyhoeddwyd

Dyw hi byth yn rhy hwyr i fentro. Mae yna gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer y menywod dros 40 oed sy'n dechrau eu busnesau eu hunain yng Nghymru.

Eisiau her newydd, gwireddu breuddwyd neu awydd i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain - mae'r rhesymau dros fentro yn rhai amrywiol.

Cafodd Cymru Fyw air gyda thair gwraig ddewr wnaeth newid cyfeiriad a gweld eu busnesau newydd yn mynd o nerth i nerth...

Roedd Llinos Wyn, sy'n 52 oed, o Fachynlleth yn athrawes yn y dre' am bron i ugain mlynedd, pan drodd hi ei diddordeb o wneud sebonau 芒 llaw yn fusnes llawn amser. Ar 么l cael digon ar y gwaith papur a phwysau gwaith yn y byd dysgu, penderfynodd gymryd y cyfle o gychwyn ei busnes ei hun. Eleni fe gyrhaeddodd 'Dyfi Naturals' rhestr fer categori Busnes Gwyrdd Gwobrau Prime Cymru.

Tipyn o sialens

Roedd yne lot o heriau. Roedd marchnata a gwerthu fy hun yn dipyn o sialens i fi. Gosod y busnes i fyny, yr ochr ariannol a chadw cownts, o'n i'n gorfod ffeindio allan pob dim cyn dechra' gwerthu.

Gan fy mod i'n fusnes sy'n gwneud sebon, fel efo unrhyw cosmetics, mae'n rhaid gyrru'r ryseit i ffwrdd at assessor i gael tystysgrif ei fod yn iawn i'w werthu. O'n i'n ffeindio allan wrth fy mod i'n mynd yn fy 'mlaen faint o waith oedd rhedeg busnes yn ei olygu ac oeddwn i'n dysgu wrth i fi fynd yn fy 'mlaen hefyd, ond os oedd gen i unrhyw gwestiwn, unrhyw beth o'n i'n ffeindio'n anodd, oedd 'na rhywun o'n i'n gallu gofyn iddo. Dwi yn falch iawn wnes i fwrw ati i wneud.

Byswn i'n d'eud mod i'n gweithio gymaint o oriau ac yr un mor galed ag oeddwn i pan o'n i'n dysgu, ond dwi'n 'neud o i fy hun r诺an ac yn cael lot fwy o bleser.

Gweithio yn y byd ffilm a drama oedd Gwenno Penrhyn am bymtheg mlynedd. Erbyn hyn, mae'n rhedeg siop ddillad Kiti yng Nghaerdydd. Wrth iddi gyrraedd ei 40au, roedd yr oriau hir yn gweithio'n y byd coluro yn apelio llai a phenderfynodd droi ei diddordeb yn y byd ffasiwn yn fusnes.

Amser am newid

O'dd ffasiwn yn rhywbeth oedd gennai ddiddordeb anferth ynddo fo ac o'n i'n gweld bwlch yn y farchnad yng Nghaerdydd i beth dwi'n 'neud. Oedd o'n amser i mi wneud rhywbeth gwahanol a rhoi her i fy hunan.

Dwi'n meddwl bod rhywbeth yn digwydd i ferched yn eu 40au cynnar. Os 'di rhywbeth ddim cweit yn iawn yn dy fywyd di, bod gen ti work/life balance sy' ddim cweit yn iawn, neu os mae'n amser am newid, mae'r 40au cynnar yn adag lle rwyt ti'n newid fel dynas.

Mi oedd agor y siop yn her anferth, ac mae gen ti lot i'w golli pan ti'n dechra' busnes, ond pan ti yn dy 40au, rwyt ti dipyn bach fwy aeddfed ac yn fwy parod i roi y commitment yna i rywbeth. Dwi'n meddwl, wrth fynd yn h欧n oedd gennai berspectif gwahanol a mwy o amser i roi mewn i hyn.

Dydw i ddim yn dod o gefndir retail a taswn i wedi gor feddwl am y peth dwi ddim yn si诺r a fyswn i wedi ei wneud o, ond dwi'n mwynhau'n fawr a ddim yn difaru o gwbwl.

Mi oedd pob dim yn sialens ar y cychwyn, mae'r ochr fusnes yn eitha' cymhleth efo siop, ond y cyngor byswn i'n ei roi i unrhyw un ydy i fynd amdani. Ma' rhywun yn y gwaith am lot fwy o oriau nag ydy rhywun adra', mae'n rhan enfawr o dy fywyd di a fedra i ddim meddwl am ddim byd gwaeth na pheidio mwyhau mynd i mewn i'r gwaith.

Rydan ni gymaint fengach y dyddie' yma yn ein 40au a 50au, mae gyda ni flynyddoedd o waith ar 么l ynddon ni. Ddylai oed ddim dal neb yn 么l.

Salwch, a magu ei merch ar ei phen ei hun oedd y sbardun i Sara Lewis, sy'n 49 oed o Fachynlleth, i newid trywydd ei bywyd. Ar 么l cael emphysema a'i chael hi'n anodd gwneud gwaith corfforol, penderfynodd Sara droi at wn茂o ac agor siop yn gwerthu clustogau personol a nwyddau eraill. Agorodd Y Botwm Bach ym Machynlleth flwyddyn yn 么l.

Cario 'mlaen

Mae gynnai emphysema ac o'n i'n gweithio yn y caffi yn y Craft Centre yng Nghorris. Mi es i'n rili depressed achos o'n i ddim yn gallu anadlu, ond ar 么l amser 'da chi'n derbyn be' sy' gynnoch chi a meddwl 'c'mon, mae'n rhaid 'neud rhywbeth'.

Roedd yn rhaid i fi addasu i fedru byw efo'r afiechyd, achos unwaith rydach chi'n rhoi fyny ar rywbeth, that's it. Mae'n rhaid cario 'mlaen.

Roedd Ffion, fy hogan i, wedi cael peiriant gwn茂o a phan oedd hi'n gwneud cushion, fe wnes i feddwl 'alla i wneud hwnna'. Wnaeth hi ddangos i fi sut oedd gweithio'r peiriant a fel yna wnes i ddechre.

Pan oedd Ffion yn g'neud ei gwaith cartre' yn y gegin, byswn i'n eistedd yno efo hi yn gwneud dim. R诺an dwi'n eistedd efo hi a dwi'n gwn茂o.

I ddechrau fe es i 芒 hanner dwsin o cushions i s锚l yng Nghorris ac fe werthon nhw. Wedyn dechreuais eu gwerthu ym marchnad Machynlleth am fisoedd cyn i'r siop ddod yn wag, a dwi 'di cymryd y siop ers bron i flwyddyn.

Dwi'n gwneud sachau a bunting Nadolig ac mae pobl yn prynu o Seland Newydd ac Awstralia, mae dwy sach Si么n Corn yn mynd i America, ac mae gen i gynlluniau at y flwyddyn nesa'.

Dwi'n gweithio oriau hir iawn, dwi'n mynd i'r siop fel rheol drwy'r dydd a dwi'n gwn茂o wedyn tan 1 neu 2 y bore, ond does na ddim depression erbyn hyn, does na ddim amser i fod yn isel, neu i deimlo yn sori am fy hun.

Dwi'n meddwl weithiau, be dwi di 'neud? Dwi di dechra' efo dim byd a wedyn dwi'n edrych yn 么l a meddwl faint rydw i wedi ei gyflawni, mae pobl yn dweud 'you're inspiring Sara', a mae hynny yn reit neis.