McEvoy am 'godi pontydd' yng nghynhadledd Plaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Neil McEvoy wedi ei wahardd o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad

Mae'r AC Neil McEvoy, gafodd ei wahardd o gr诺p Plaid Cymru yr wythnos diwethaf, wedi dweud y bydd yn mynychu cynhadledd flynyddol Plaid Cymru fis nesa' a hynny er mwyn "codi pontydd" gydag ACau'r blaid.

Cafodd Mr McEvoy ei wahardd o gr诺p Plaid Cymru ar 么l i aelodau eraill gwyno ei fod wedi torri rheolau'r cod ymddygiad.

Dywedodd AC Canol De Cymru nad oedd wedi penderfynu eto a yw am apelio yn erbyn y penderfyniad i'w wahardd.

Ychwanegodd mai ei ddymuniad oedd "ceisio cefnogi fy nghyd aelodau yn Plaid Cymru i'r gorau o'm gallu".

Pan ofynnwyd iddo a fyddai am fod yn aelod o'r gr诺p eto dywedodd: "Wrth gwrs y byddaf."

Cefnogi'r arweinydd

Dywedodd y byddai yn mynychu cynhadledd y blaid yng Nghaernarfon ym mis Hydref ac y byddai'n cynnal cyfarfod ymylol - cyfarfod, meddai, oedd wedi ei drefnu rhai misoedd yn 么l.

"Mae'n bwysig i mi godi pontydd ac i leihau unrhyw ddrwg deimlad y gall yna fod," meddai.

Gwadodd ei fod ag unrhyw uchelgais i fod yn arweinydd nac i herio Lenne Wood.

Yn 么l rheolau Plaid Cymru fe fydd yn rhaid i Ms Wood dderbyn cymeradwyaeth fel arweinydd erbyn cynhadledd 2018.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n cefnogi ei chymeradwyo dywedodd Mr McEvoy: "Rwyf wedi mynegi fy nghefnogaeth iddi ar sawl achlysur meddai. Does dim allai ychwanegu at hynny."