麻豆官网首页入口

Shenkin, Gafr y Gatrawd Frenhinol Gymreig wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Shenkin with his handler Goat Major Sergeant Mark JacksonFfynhonnell y llun, Y Fyddin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Shenkin gyda'i dywysydd Mark Jackson

Mae'r fyddin wedi cadarnhau fod mascot trydydd bataliwn y Gatrawd Frenhinol wedi marw.

Bu farw y Corporal Shenkin III, gafr Kashmiraidd o Gyr Brenhinol Pen y Gogarth, ddydd Mawrth yn saith oed.

Roedd Shenkin i'w weld yn gyson mewn gemau rhyngwladol gyda'i dywysydd y rhingyll Mark Jackson.

Mae llythyr swyddogol wedi cael ei anfon at y Frenhines yn ei hysbysu o farwolaeth Shenkin ac yn gofyn am ganiat芒d i ddewis gafr newydd.

Ffynhonnell y llun, Y Fyddin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Shenkin yn cael ei gyflwyno i'r Tywysog Charles

Mae geifr o Ben y Gogarth wedi bod yn cael eu cyflwyno i'r gatrawd ers 1844 a hynny pan gyflwynodd y Frenhines Victoria yr afr frenhinol gyntaf i'r Gatrawd Gymreig.

Cafodd Shenkin ei ddewis wedi marwolaeth ei ragflaenydd - a Shenkin oedd enw hwnnw hefyd.

Mae Mark Jackson wedi bod yn tywys Shenkin ers pum mlynedd ac mae'r ddau wedi bod yn arwain sawl par锚d a'r t卯m rygbi cenedlaethol ar Stadiwm Principality.

Ffynhonnell y llun, Y Fyddin

Mi fydd carreg fedd yn cael ei gosod i gofio am Shenkin ym mhencadlys y gatrawd ym Maracs Y Maendy yng Nghaaerdydd.

"Roedd Shenkin," meddai'r Rhingyll Jackson," yn rhan o'r teulu. Roedd e wrth ei fodd mewn tyrfa ac yn hoff iawn o arddangos ei hun."

Mae disgwyl i'r broses o ddewis olynydd i Shenkin ddechrau yn fuan a thra bod hynny yn digwydd mi fydd Llywelyn, mascot bataliwn cyntaf y Gatrawd Frenhinol yn cyflanwi'r dyletswyddau.

Ffynhonnell y llun, Y Fyddin