麻豆官网首页入口

Datganoli rheilffyrdd: 'Datrysiad yn agos' medd Skates

  • Cyhoeddwyd
Tren

Mae "datrysiad yn agos" mewn ffrae rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒 gwasanaethau trenau i Gymru, yn 么l Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Roedd y pwerau yn ymwneud 芒 phwy fyddai'n gyfrifol am wasanaethau trenau yng Nghymru a'r Gororau yn fod i gael ei ddatganoli yn gynharach eleni.

Bellach mae posibilrwydd i

Wrth wraidd y ffrae mae'r ddadl yngl欧n ag a ddylai'r Adran Drafnidiaeth roi 拢1bn i Lywodraeth Cymru dros gyfnod o 15 mlynedd.

Mae'r ddwy ochr wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda'r broses dendro er mwyn penodi rhywun i redeg y gwasanaeth, er gwaetha'r ffaith nad oes cytundeb penodol yn ei le.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r trafodaethau wedi bod yn bositif yn 么l Ken Skates AC

Mae Mr Skates wedi cadarnhau bod tendrau terfynol wedi cael eu gwahodd ar gyfer masnachfraint reilffordd nesaf Cymru a'r Gororau. Dyma'r broses gyntaf o'i bath i gael ei threfnu gan Lywodraeth Cymru.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, bydd y gwasanaeth rheilffyrdd newydd yn arwain at newid mawr yn ansawdd y gwasanaeth fydd yn cael ei ddarparu yng Nghymru.

Ers mis Ionawr 2017, mae swyddogion a chwmn茂au sy'n cyflwyno cynigion i redeg y gwasanaeth wedi bod yn trafod datrysiadau posib er mwyn dod o hyd i'r atebion fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru a'r Gororau orau.

Dywedodd Mr Skates: "Mae ewyllys da ar y ddwy ochr er mwyn sicrhau bod y setliad yn gweithio i Gymru a'r Gororau, ac yn dilyn trafodaethau positif, mae datrysiad yn agos."

Y pedwar cwmni sydd yn y ras i gymryd y gwasanaeth drosodd yw Abellio Rail Cymru, Arriva Rail Wales, KeolisAmer a MTR Corporation (Cymru) Ltd.

Bydd cyhoeddiad yngl欧n 芒'r cais llwyddiannus yn y flwyddyn newydd.

Mae'r gwasanaethau ar hyn o bryd yn cael ei redeg gan Trenau Arriva Cymru.