Trethi newydd a mwy o arian i iechyd yn y gyllideb

Disgrifiad o'r llun, Fe gyflwynodd Mark Drakeford y gyllideb ddrafft yn y Cynulliad brynhawn Mawrth

Mae 拢450m ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros gyfnod o ddwy flynedd yng nghyllideb ddrafft gwerth 拢15bn Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford y bydd trethi uwch hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer tai sy'n cael eu gwerthu am fwy na 拢400,000.

Hwn yw'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gael yr hawl i godi trethi, ac yng Nghymru fe fydd y dreth tirlenwi a'r dreth trafodion tir yn disodli'r dreth stamp.

Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys arian i godi 20,000 o dai newydd a gorsaf drenau newydd.

Newid treth ar brynu tai

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n prynu tai yng Nghymru yn talu llai neu'r un faint mewn trethi dan y fersiwn newydd o'r dreth stamp, yn 么l y llywodraeth.

Ni fydd treth ar dai sy'n costio hyd at 拢150,000 o'r flwyddyn nesaf ymlaen, fel rhan o'r Dreth Trafodion Tir.

Beth mae'r dreth newydd yn ei olygu?

O dan yr hen system byddai prynwr t欧 am y pris cyfartalog yng Nghymru, 拢150,846, yn talu 拢516.92 mewn treth.

Dan y dreth newydd, byddai'r prynwr yn talu 拢21.15.

Ond i gartref werth 拢500,000 byddai'r system newydd yn golygu talu 拢17,500 o dreth yn hytrach na 拢15,000.

Ond bydd pobl sy'n prynu tai am dros 拢400,000 yn gorfod talu mwy o dreth dan y system newydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd cynyddu'r uchafswm heb dalu treth o 拢125,000 i 拢150,000 yn arbed 拢500 i'r t欧 arferol.

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口/Getty Images

Dywedodd Mr Drakeford i'r gyllideb gael ei llunio dan gysgod polisi llymder llywodraeth Geidwadol y DU a'i fod "yn golygu ein bod yn parhau i wynebu toriadau i'n cyllideb".

"Erbyn diwedd y ddegawd, bydd wedi cael ei thorri 7% mewn termau real ers 2010 - sef 拢1.2bn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol," meddai.

Er y pwerau newydd i godi trethi, mae rhan helaeth arian Cymru yn dod o'r Trysorlys.

Arian i gartrefi a gorsaf drenau

Fe fydd y gwasanaeth iechyd yn derbyn 拢230m yn 2018-19 a 拢220m yn 2019-20 yn 么l y cyhoeddiad ddydd Mawrth.

Mae'r ddogfen hefyd yn cynnwys 拢340m ar gyfer cynllun i godi 20,000 o gartrefi newydd a 拢50m ar gyfer gorsaf drenau newydd yn Llanwern, Casnewydd.

O ganlyniad i bwerau newydd mae gan Lywodraeth Cymru nawr yr hawl hefyd i fenthyg arian.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys 拢450m yn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros gyfnod o ddwy flynedd

Mae disgwyl i'r gyllideb gael ei phasio pan fydd y Cynulliad yn pleidleisio arni yn sgil cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Yn 么l y fargen gwerth 拢210m, bydd mwy ar o wario ar ofal iechyd meddwl ac ar hyfforddi meddygon yn y gogledd.

Fe fydd Plaid Cymru yn atal eu pleidlais pan fydd y ddogfen yn mynd gerbron Aelodau Cynulliad, gan olygu y bydd gan y llywodraeth fwyafrif clir.

'Cytundeb stafell gefn'

Dywedodd y Ceidwadwyr brynhawn Mawrth mai'r gyllideb hon "ydy'r diweddaraf mewn cyfres hir o gytundebau stafell gefn rhagweladwy rhwng y cenedlaetholwyr a Llafur".

Ychwanegodd eu llefarydd cyllid, Nick Ramsay, bod "cyfle wedi'i fethu" i ddelio 芒 thanfuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd, a bod Llafur a Phlaid Cymru wedi "torri nifer o addewidion" er mwyn taro'u bargen.

Dywedodd Plaid Cymru bydd "cymunedau ym mhob rhan o Gymru" yn elwa o'u cytundeb 芒 Llafur.

Ond yn 么l eu llefarydd cyllid, Adam Price, mae Llafur hefyd wedi mynd yn groes i'w maniffesto drwy beidio cael gwared 芒'r cap ar gyflogau'r sector gyhoeddus ac atal cynnydd mewn ffioedd dysgu.