Caerdydd y 'dewis iawn' ar gyfer gwasanaeth awyr newydd

Ffynhonnell y llun, Qatar Airways

Disgrifiad o'r llun, Bydd teithiau dyddiol yn dechrau rhwng Caerdydd a Doha ym mis Mai 2018

Mae Prif Weithredwr Qatar Airways yn dweud ei fod wedi ymwrthod 芒 phwysau oddi mewn i'r cwmni i beidio a dewis Maes Awyr Caerdydd ar gyfer gwasanaeth dyddiol newydd i Doha.

Dywedodd Akbar Al Baker fod gan bobl o fewn y cwmni "ddadleuon cryf iawn" nad oedd yna ddigon o deithwyr i gyfiawnhau darparu teithiau dyddiol.

Ond mynnodd y bydd yn cael ei brofi'n iawn ar 么l dewis Caerdydd yn lle Bryste.

Bydd y gwasanaeth yn dechrau ym Mai 2018.

Dywedodd Mr Al Baker wrth 麻豆官网首页入口 Cymru y bydd yn gweithredu fel "hyrwyddwr" i ddod 芒 buddsoddiad pellach yng Nghymru drwy'r gwasanaeth.

Mae Llywodraethau'r DU a Qatar wedi cytuno ar dd锚l buddsoddi gwerth 拢5bn ar gyfer y dyfodol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mr Al Baker y bydd y gwasanaeth dyddiol yn dod 芒 chyfleoedd busnes a thwristiaeth newydd

Eisoes, mae gan Qatar gysylltiadau pwysig 芒 Chymru, gan gynnwys Qatar Petroleum, sy'n berchen ar fwyafrif cyfrannau terfynfa nwy hylifol South Hook yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Mae Maes Awyr Caerdydd a'r perchennog, Llywodraeth Cymru, wedi ei gwneud hi'n glir eu bod yn chwilio am bartner o fewn y sector preifat i gefnogi datblygu'r safle ym Mro Morgannwg, sy'n cynnwys codi terfynfa newydd.

Tra'n siarad mewn derbyniad yn Doha, dywedodd Mr Al Baker fod Cymru'n datblygu "ar raddfa fawr" a'i bod hi'n "bwysig cysylltu pobl Cymru a de orllewin Lloegr gyda gweddill y byd."

Ond dywedodd y byddai'n rhaid i'r gwasanaeth sefyll ar ei draed ei hun.

Ffynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Dewisiodd Qatar Airways Faes Awyr Caerdydd yn hytrach na Bryste ar gyfer y gwasnaeth

"Nid cwmni tacsi ydyn ni, rydyn ni'n gwmni awyr, felly allwn ni ddim 芒 bodloni a chymodi pob cais", meddai.

"Rhaid inni wneud ein siwr ein bod hi'n gweithredu'n fasnachol a sicrhau bod y llwybr yn datblygu'n gyflym gyda'r bobl iawn a'r elw iawn."

Dywedodd Mr Al Baker fod gweinidogion, llysgenhadon a phenaethiaid meysydd awyr ei lob茂o, a bod "pwysau aruthrol" wedi ei roi arno wrth ei ddarbwyllo i ddewis Cymru.

"Roedd gyda ni gystadleuaeth rhwng Cymru a Bryste a Chymru enillodd."

Anghydfod

Cafodd y cyhoeddiad am y gwsanaeth newydd ei wneud cyn yr anghydfod presennol rhwng Qatar a'i chymdogion, gan gynnwys Saudi Arabia a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

Mae Qatar Airways wedi ei gwahardd rhag hedfan dros y gwledydd hynny, sy'n golygu y gallai teithiau fod yn hirach a drutach, allai ddylanwadu ar benderfyniad cwmseriaid i deithio gyda nhw.

Gwrthododd Al Baker y syniad y gallai tensiynau rhwng gwledydd y Dwyrain Canol effeithio ar deithwyr o'r DU.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Alun Cairns yn bresennol mewn derbyniad yn Doha

Dywedodd Prif Weithredwr y maes awyr, Deb Barber, fod gwasaneth Qatar Airways yn hollbwysig am ei fod yn canolbwyntio ar weddnewid canfyddiad pobl o'r maes awyr.

"Mae hyn yn ymwneud ag adeiladu hyder heintys o fewn y busnes gyda theithwyr a chwmniau awyr," dywedodd.

"Bydd cael gwmni awyr o'r radd flaenaf fel Qatar yn ymddiried a rhoi eu hyder yn ein maes awyr a'n marchnad yn cael effaith gatalytig ac yn ychwanegu at yr hyder rydym yn ei fagu fis ar 么l mis."

Ychwanegodd fod yna farchnad o 1.4m o deithwyr o Gymru a gorllewin Lloegr sydd ar hyn o bryd yn teithio i'r Dwyrain Canol o feysydd awyr eraill.

Cafodd derbyniad ei gynnal yn llysgenhadaeth Prydain yn Doha, gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn un o'r gwesteion.

Dywedodd Mr Cairns: "Mae'n gyfle i bobl deithio i mewn, ond hefyd allan, fel bod Caerdydd yn dod yn rhan o'r Brydain fyd-eang rydym yn ei ddatblygu."