麻豆官网首页入口

Pryderon gan un o gynghorau dinas ranbarth Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad y cynllun yw creu swyddi a hybu'r economi yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro

Mae un o bartneriaid cynllun Dinas Ranbarth Bae Abertawe wedi codi pryderon am ddatblygiad a pheryglon "sylweddol" sydd ynghlwm 芒'r cynllun 拢1.3bn.

Mae adroddiad i gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhybuddio yn erbyn ymuno 芒'r pwyllgor fydd yn goruchwylio'r cynllun.

Dywedodd bod dal angen datrys nifer o faterion allweddol, a chododd bryderon am sefyllfa ariannol y prosiect.

Bydd y cabinet yn trafod yr adroddiad ddydd Mercher.

Dywedodd gr诺p Dinas Ranbarth Bae Abertawe ei bod hi'n iawn i swyddogion y cyngor adlewyrchu'r peryglon, ond nad yw'r rhai sydd wedi'i grybwyll yn newydd ac mae gr诺p rhanbarth dinas Caerdydd hefyd yn wynebu'r un peth.

'Nifer o faterion ariannol'

Bwriad y Fargen Ddinesig yw creu 10,000 o swyddi dros 15 mlynedd, a hynny drwy 11 o brosiectau ym meysydd ynni, gweithgynhyrchu a gwyddoniaeth.

Mae cynghorau sir Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi cefnogi'r cynllun, yn ogystal 芒 byrddau iechyd a phrifysgolion yn yr ardal.

Ond mae cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach yn pryderu am ddiffyg cytundeb waith yn gosod sut y bydd y gwaith yn cael ei reoli.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones a Theresa May gyfarfod i arwyddo'r cytundeb ym mis Mawrth

Dywedodd yr adroddiad: "Ar ei lefel fwyaf sylfaenol, pe bai aelodau'n gofyn am esboniad syml o sut y byddai'n gweithio yn ymarferol, ni fyddai swyddogion yn gallu rhoi un ar hyn o bryd."

Ychwanegodd yr adroddiad bod aelodau "i bob pwrpas wedi penderfynu ailddechrau" ar y cytundeb waith.

'Pwysau ariannol sylweddol'

Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod "nifer o faterion ariannol" sydd heb eu datrys, gan gynnwys "ansicrwydd" am gynllun Arch Health, sydd eisiau 拢100m fel rhan o'r Fargen Ddinesig, ond sydd ddim yn un o'r 11 o gynlluniau.

Fe wnaeth yr adroddiad wrthod syniad y byddai cynghorau'n rhoi mwy o arian, ar 么l i Lywodraeth Cymru ddweud wrth Arch Health i chwilio am arian o ffynonellau eraill.

Ffactor arall i'r cyngor ystyried, meddai'r adroddiad, yw bod gan y ddinas ranbarth y potensial i roi "pwysau ariannol sylweddol" ar y cyngor mewn cyfnod pan mae "blaenoriaethau eraill yn cynnwys ysgolion, isadeiledd ac achosion brys fel tirlithriad Ystalyfera".

Mae'r adroddiad yn rhoi tri opsiwn i'r cyngor:

  • Gwrthod ymuno 芒'r pwyllgor cyn creu cytundeb waith;

  • Parhau i drafod y cynllun ond nid fel rhan o bwyllgor;

  • Tynnu 'n么l o'r cynllun.

Mae'r adroddiad yn argymell parhau i drafod ond nid yn rhan o'r pwyllgor, gan y bydd hynny'n rhoi "mwy o amser i wneud y gwaith yn iawn, yn lleihau risgiau ariannol a chyfreithiol" a rhoi "cyfle i aelodau ystyried manteision a chostau'r Fargen Ddinesig yn erbyn y blaenoriaethau eraill".

Mae'r adroddiad yn argymell gwneud penderfyniad terfynol wrth drafod cyllideb 2018/19 y cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Dinas Ranbarth Bae Abertawe: "Rydym yn y o broses o benderfynu ar y cwestiynau hyn gyda llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU, ac rydym am fynd ag adroddiadau manwl i'r cynghorau i gael s锚l bendith derfynol ar brosiectau erbyn diwedd y flwyddyn".