麻豆官网首页入口

Arweinydd cyngor yn beirniadu gwariant GIG

  • Cyhoeddwyd
CynghorauFfynhonnell y llun, Thinkstock

Dyw hi ddim yn bosib i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru orwario tra bod cynghorau yn wynebu toriadau parhaus medd arweinydd un awdurdod lleol.

Dywedodd Mark Pritchard o Gyngor Wrecsam bod angen "sgwrs aeddfed" yngl欧n 芒'r ffordd mae cynghorau a'r GIG yn cael eu hariannu.

Mae hefyd yn rhybuddio y bydd toriadau mewn gwasanaethau lleol yn arwain at fwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd ar draws Cymru.

Ddydd Mawrth bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod faint o arian fyddan nhw'n derbyn gan Lywodraeth Cymru flwyddyn nesaf.

Ond mae arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi darogan yn barod bydd yn rhaid iddyn nhw godi treth y cyngor 5%.

Mae Debbie Wilcox hefyd wedi galw am ddiwygiadau i'r GIG er mwyn lleihau costau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Debbie Wilcox wedi dweud nad oes yna opsiwn arall ond yn cynyddu treth y cyngor

Daw ei sylwadau yn dilyn adolygiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, oedd yn darogan gallai tua 56c o bob punt sydd yn cael ei wario gan Lywodraeth Cymru, gael ei neilltuo i'r GIG o fewn pedair blynedd.

Wrth siarad gyda rhaglen 麻豆官网首页入口 Radio Wales, Sunday Supplement, dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam ei fod yn gefnogol iawn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ond bod angen taclo'r gorwario.

Cydweithio

"Mae angen i'r gwasanaeth iechyd gael ei reoli'n well yn ariannol, achos os ydych chi yn torri yn 么l ar un gwasanaeth ac yn rhoi arian i'r llall, mae yna effaith i hynny."

"Nid yn unig hynny ond mi ydyn ni yn gorfod gweithio mewn partneriaeth gyda'r gwasanaeth iechyd. Mae'n rhaid i ni wneud hynny achos mae gyda ni lawer i'w gynnig."

Ychwanegodd y cynghorydd annibynnol: "Dw i'n teimlo weithiau eu bod nhw ddim yn gwrando, eu bod nhw yn gweithio yn ynysig a dyw hynny ddim yn dda i unrhyw un."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cyllideb ddrafft y llywodraeth yn nodi byddai'r gwasanaeth iechyd yn derbyn 拢450m yn fwy o arian flwyddyn nesaf

Dywedodd Mr Pritchard fod ei gyngor ef nawr yn gorfod trafod pa wasanaethau i'w torri.

"Pe bydden ni yn rhoi'r gorau i raeanu ffyrdd, fe fyddai yna fwy o bobl yn disgyn.

"Rydyn ni yn gwario llawer o arian ar grantiau i bobl anabl er mwyn gwneud yn si诺r eu bod yn parhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi. Pe bydden ni yn stopio gwneud hynny, fe fyddai yna effaith ar eu hiechyd.

"Os ydyn nhw yn parhau i gymryd arian oddi wrth wasanaethau lleol mae'n mynd i gael effaith ar iechyd y cyhoedd."

Ddim yn 'setliad hael'

Cafodd arian ychwanegol ar gyfer y GIG ei gyhoeddi fel rhan o gyllideb ddrafft y llywodraeth wythnos diwethaf.

Dros y ddwy flynedd nesaf bydd yn derbyn 拢450m yn fwy.

Yn 么l swyddogion Llywodraeth Cymru 1% o gynnydd yw'r arian ychwanegol, sydd meddai'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, ddim yn "setliad hael."

Ond mae cynghorau Cymru yn dweud eu bod yn wynebu toriadau o 拢900m, fydd yn effeithio gwasanaethau rheng flaen.

Dywedodd llefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinydd Cyngor Torfaen, Anthony Hunt, oni bai bod mwy o fuddsoddi y byddai'r oblygiadau yn, "drychinebus i gymunedau."