Carchar: Cyfamod tir yn rhwystr?

Disgrifiad o'r llun, Gallai carchar gael ei adeiladu ar dir gwag ym Mharc Diwydiannol Baglan
  • Awdur, Ben Price
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Gallai gweithred gyfamodi gael effaith ar y cynlluniau dadleuol i godi carchar newydd ym Maglan.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gweld dogfennau sy'n awgrymu na all y tir gael ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas heblaw parc diwydiannol.

Mae'r weithred gyfamodi, a all effeithio sut y mae'r tir yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol, hefyd yn dweud na ddylai gael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw "fusnes gweithgynhyrchu tramgwyddus, swnllyd na pheryglus, nac ar gyfer unrhyw bwrpas neu fod allai fod yn niwsans i berchnogion neu breswylwyr unrhyw eiddo cyfagos".

Yn gynharach eleni cafodd llain o dir ar Barc Busnes Baglan ym Mhort Talbot ei ddewis gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer lleoliad dewisol carchar i gartrefu 1,600 o garcharorion.

Mae'r safle, sy'n agos i draffordd yr M4, ar hyn o bryd yn eiddo i Lywodraeth Cymru.

'Calon y gymuned'

Ddydd Mawrth yn y Senedd fe gododd AC Aberafan, David Rees, y mater gyda'r prif weinidog Carwyn Jones.

Dywedodd Mr Rees: "Mae angen i Lywodraeth Cymru edrych yn ofalus ar y materion yma. Mae'n gwbl glir y dylai'r tir yma, sydd mewn Ardal Fenter, gael ei ddefnyddio ar bwrpasau diwydiannol.

"Mae'r tir yng nghalon y gymuned, sydd yn wahanol i unrhyw gais arall sydd wedi cael ei wneud ar gyfer carchardai yng Nghymru.

"Mae angen i ni ystyried yn ofalus beth yw pwrpas y tir yma, beth maen nhw'n gobeithio'i gyflawni gyda'r tir, ac os ydyn nhw am weld twf ariannol ai carchar yw hynny?"

Disgrifiad o'r llun, Fis diwethaf daeth dros 250 i gyfarfod cyhoeddus i fynegi pryder am y cynllun carchar newydd

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does dim penderfyniad ar ddyfodol y safle wedi ei wneud. Os ydy'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am fwrw 'mlaen gyda phrynu'r safle, byddai'n rhaid ateb y pryder yma."

Eisoes mae llawer yn yr ardal wedi mynegi pryder am y cynllun i godi carchar Categori C ar y safle, gyda mwy na 250 yn dod i gyfarfod cyhoeddus yn Aberafan fis diwethaf i drafod y cynllun gyda gwleidyddion lleol a swyddogion o Lywodraeth y DU.

Mae eraill yn gweld y cynllun fel cyfle i greu swyddi yn yr ardal ac i fusnesau lleol elwa.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw'n trafod y cynllun gyda'r gymuned leol mewn ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd rhywdro yn yr hydref.