Neil McEvoy yn apelio yn erbyn gwaharddiad o gr诺p Plaid

Disgrifiad o'r llun, Mae Neil McEvoy yn gobeithio y bydd yn gallu dychwelyd i gr诺p Plaid Cymru

Mae Neil McEvoy wedi cadarnhau y bydd yn apelio yn erbyn ei waharddiad o gr诺p Plaid Cymru yn y Cynulliad.

Mae arweinydd y blaid Leanne Wood wedi dweud bod ei ymddygiad yn "amharu ac yn ymyrryd" ac yn mynd yn "groes i reolau'r blaid".

Cafodd Mr McEvoy, AC ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru, ei wahardd wedi iddo wrthwynebu'r ffaith fod Plaid Cymru yn cefnogi diddymu hawliau tenantiaid i brynu tai cymdeithasol.

Dywedodd ei fod yn gobeithio dychwelyd i gr诺p y blaid, a bydd ei ap锚l yn cael ei chlywed fis nesaf.

'Gobeithio cael dychwelyd'

Mae'r 麻豆官网首页入口 yn deall bod Mr McEvoy yn gofyn am yr hawl i gael ei drin yn yr un modd ag aelodau cynulliad eraill sydd, yn ei dyb ef, wedi mynd yn groes i bolisi'r blaid a heb gael eu gwahardd.

Yn 么l ffynhonnell sydd wedi siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru dyw Mr McEvoy ddim yn bwriadu ymddiheuro.

"Rwyf wedi gwneud ap锚l i bwyllgor gweithredol y blaid i gael mynd yn 么l i'r gr诺p yn y Cynulliad Cenedlaethol," meddai Mr McEvoy.

"Rwyf hefyd wedi hysbysu cadeirydd, prif weithredwr a prif chwip y blaid o'm mhenderfyniad.

"Drwy'r ap锚l hon rwy'n gobeithio cael dychwelyd i gr诺p Plaid Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Leanne Wood wedi dweud bod ymddygiad Neil McEvoy yn mynd yn "groes i reolau'r blaid"

Mae Mr McEvoy wedi bod yn aelod annibynnol o'r Cynulliad ers mis Medi pan bleidleisiodd ei gyd-aelodau yn unfrydol i'w wahardd o'r gr诺p am yr ail waith eleni.

Ar y pryd dywedodd Ms Wood wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod "yna nifer o achosion wedi bod yn ystod yr haf o siarad am bolisi, ymosod ar aelodau o'r gr诺p a pheidio trin aelodau eraill gyda pharch".

Mae Plaid Cymru hefyd yn cynnal ymchwiliad mewnol i ymddygiad Mr McEvoy.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod Mr McEvoy wedi hysbysu'r blaid o'i fwriad i apelio yn erbyn ei waharddiad.

"Dyw hi ddim yn briodol i ni wneud sylw pellach," ychwanegodd.