麻豆官网首页入口

Chwifio baner y digartre

  • Cyhoeddwyd
jo

Mae nifer y bobl sy'n ddigartre' ac yn cysgu ar strydoedd Cymru , ond mae un menyw o Abertawe yn ceisio mynd i'r afael 芒'r sefyllfa.

Mae Jo Ashburner Farr, wnaeth dreulio cyfnod yn byw ar y stryd, yn gofalu am gwmni cymdeithasol yn Abertawe sydd yn cydweithio'n agos ag elusennau'r digartre'.

Ond nawr mae hi'n awyddus i harnesu hen fusnes ei thad i helpu pobl sy'n cysgu ar strydoedd Cymru fel y bu'n egluro wrth Cymru Fyw...

Roedd Red Dragon Manufacturing, cwmni fy nhad yn cynhyrchu baneri o safon uchel. Sefydlodd y cwmni yn 1969 a ni oedd yn gyfrifol am wneud y baneri gafodd eu defnyddio yn Seremoni'r Arwisgo yng Nghastell Caernarfon.

Daeth y cwmni i ben ar 么l i fy nhad ymddeol, ond wnes i benderfynu ail sefydlu'r cwmni yn 2014 fel cwmni cymdeithasol, sydd yn ail fuddsoddi ei holl elw n么l mewn i helpu'r busnes a'r gweithwyr sy'n gweithio ynddo.

Mae elusnennau pobl digartre' yn agos at fy nghalon gan fy mod i am gyfnod wedi bod mewn sefyllfa pan nad oedd gen i do dros fy mhen. Ro'n i newydd gael plentyn, fy mhriodas wedi chwalu, a doedd unman gyda fi i fyw nag unrhyw ffordd o gael arian.

Dim ond am gyfnod byr iawn oedden ni yn y sefyllfa echrydus hon, ond roedd yn ysgytwad syfrdanol ac yn foment sydd yn newid eich bywyd a'ch holl agweddau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Robin Ashburner, sefydlodd Red Dragon Manufacturing, yn cyfarfod 芒'r Frenhines

Help llaw yn lle cardod

Ry'n ni'n rhoi cymorth a hyfforddiant i bobl ddigartre' sy'n cael eu cyfeirio atom ni gan elusennau fel y Wallich.

Gwneud baneri yw prif fusnes y cwmni, felly sgiliau gwn茂o 'dy'n ni'n feithrin yn bennaf. Ar hyn o bryd, ni'n cyflogi 11 o bobl, ond wedi hyfforddi tua 120 a'u helpu n么l i fyd gwaith.

Felly ni'n cynnig cymorth i bobl ail afael yn eu bywydau. Mae elusennau yn gallu helpu i gael lloches i bobl sy'n cysgu ar y stryd... ond beth wedyn?

Mae'n cynllun hyfforddi'n medru rhoi'r sgiliau a'r hyder i berson fynd yn 么l i fyd gwaith... ac yn wir, mi fedrwn ni hyd yn oed greu'r gwaith ar eu cyfer.

Y cam nesaf

Ond erbyn hyn, mae'r cwmni am ddatblygu ac adeiladu ar ein profiad gyda thecstilau a chynhyrchu o safon uchel i greu cynnyrch newydd fydd yn cynnig cymorth i'r digartref.

Mae cot Roof yn ddilledyn i'r digartref sydd yn dal d诺r, yn dwym ac sydd 芒'r potensial i achub bywydau pan mae'r tywydd yn oer neu'n wlyb.

Mae'r defnydd wedi ei gynllunio ar y cyd gyda'n partneriaid ym Mhrifysgol Abertawe ac yn y b么n, bydd person yn medru gorwedd mewn pwll o dd诺r a dal aros yn sych.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jo Ashburner Farr: Creu cyfleoedd i pobl gael helpu'u hunain

Ffrwyth partneriaeth

Mae'n gynnyrch o safon uchel tu hwnt, ac mae wedi rhoi'r cyfle i'r Brifysgol wneud y mwyaf o'u hadnoddau ymchwil a datblygu tecstilau, er budd y cynnyrch gorffenedig.

Y syniad yw bod ein gweithlu oedd yn arfer cysgu ar y stryd yn creu cynnyrch fydd yn helpu rhai llai ffodus sydd dal yn ddigartref.

Ond mae'r syniad wedi datblygu tu hwnt i'r hyn ro'n i wedi ystyried yn wreiddiol. Mae'r fyddin wedi dangos diddordeb yn Roof fel dilledyn ar gyfer eu snipers ac mae g诺r busnes wedi bod yn ceisio fy mherswadio i greu fersiwn fwy soffistigedig o'r got i'w gwerthu i anturiaethwyr a phobl sy'n gwneud extreme sports.

Am bob pedair cot y byddwn ni'n ei chynhyrchu, mi fydd y cwmni'n gallu gwneud un got yn rhad ac am ddim i berson digartref lleol.

Erbyn yr amser yma y flwyddyn nesaf, ni'n gobeithio ehangu i gyflogi tair gwaith gymaint o bobl a hyd yn oed mwy yn y dyfodol.

Gobeithio y byddwn ni'n dal i ddatblygu a thyfu gan fod pob ceiniog o elw'n cael ei ail fuddsoddi i greu swyddi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jo'n gweithio ar gynllun cot 'Roof'