麻豆官网首页入口

Neil McEvoy yn cefnogi arweinydd Plaid Cymru 100%

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood a McEvoy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neil McEvoy wedi ei wahardd o gr诺p y blaid, ond yn dweud ei fod wedi bod yn gefnogol i Leanne Wood erioed

Mae AC sydd wedi ei wahardd o gr诺p Blaid Cymru, Neil McEvoy, yn dweud ei fod yn cefnogi Leanne Wood 100%, a bod unrhyw awgrymiadau ei fod yn bwriadu ei herio ar gyfer arweinyddiaeth y blaid yn "nonsens".

Cafodd Mr McEvoy ei wahardd o'r gr诺p yn y Cynulliad ar 么l iddo feirniadu polisi tai'r blaid yn gyhoeddus.

Mae'r AC wedi cynnal cyfarfod ar gyrion y gynhadledd yng Nghaernarfon gan amlinellu'r hyn mae'n disgrifio fel "gweledigaeth glir ar gyfer Plaid".

Ni chafodd y cyfryngau fynediad i'r cyfarfod, ond dywedodd Mr McEvoy wrth 麻豆官网首页入口 Cymru bod unrhyw awgrym ei fod yn bwriadu herio Ms Wood yn "nonsens, dim ond achlust, bron ddim yn werth crybwyll".

Mae rheolau Plaid Cymru yn golygu bod yr arweinydd yn gallu cael ei herio bob yn ail flwyddyn, a felly'r cyfle nesaf yw Hydref 2018.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Leanne Wood, sydd yn ymweld a chwmni yn ystod cynhadledd y blaid yng Nghaernarfon, wedi bod yn arweinydd ers pum mlynedd

Dywedodd Mr McEvoy: "Mae pobl yn anghydweld mewn gwleidyddiaeth ac mae'n bwysig ein bod ni yn symud ymlaen o hynny.

"Dwi wedi dweud yn gyhoeddus dro ar 么l tro mai Leanne yw ein harweinydd a'i bod hi'n mynd i'n harwain ni i'r etholiad Cynulliad nesaf a dyna ddylai fod diwedd y mater.

"Mae gyda ni lawer o bethau positif i'w datblygu ac un peth y dylen ni fod yn siarad amdano fwy yw sofraniaeth Cymru. Dylai Cymru fod yn genedl sofran.

"Mae angen i gymaint o benderfyniadau a phosib gael eu gwneud yma yng Nghymru lle mae pobl yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau, dyna ddylai fod y flaenoriaeth i ni."