麻豆官网首页入口

Galw am gyfarfod am lygredd ar yst芒d dai yn Amlwch

  • Cyhoeddwyd
Craig y Don
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 120 o dai ar yst芒d Craig y Don yn Amlwch

Mae rhai o drigolion stad dai yn Amlwch, ble mae profion am lygredd posib yn mynd i gael eu cynnal, yn galw am gynnal cyfarfod cyhoeddus.

Fe gyhoeddodd Cyngor Ynys M么n ar 14 Hydref eu bod yn bwriadu cael cwmni i wneud y gwaith profi ym mis Rhagfyr, gan bwysleisio nad oes lle i boeni.

Ond nawr mae rhai o'r trigolion yn holi pam fod Cyngor Ynys M么n wedi aros cyhyd cyn ymchwilio i lygredd posib yn eu gerddi.

Dywedodd arweinydd y cyngor nad oes yna "risg" i drigolion yr yst芒d.

'Pam r诺an?'

Fe godwyd stad Craig y Don yn y 50au cynnar ar safle hen waith cemegol Hill's - safle gafodd hefyd ei ddefnyddio ar gyfer mwyndoddi copr dros 200 mlynedd yn 么l.

Cafodd Miriam Sanders ei magu ar yr yst芒d. Yno roedd ei chartref nes iddi briodi, ac fe ddychwelodd yno i fyw yn 2009.

"Maen nhw [Cyngor Ynys M么n] yn codi ofn heb fod isio," meddai.

"Mae'r tai 'di cael eu hadeiladu ers 60 mlynedd. Am be maen nhw isio profi'r pridd r诺an?

"Os oes rhywbeth wedi digwydd, mae o wedi digwydd yn y gorffennol. Os ydyn nhw yn ffeindio rhywbeth, be fedran nhw 'neud am y peth?

"Mi ddylai profion fod wedi cael eu gwneud cyn i'r cyngor adeiladu'r tai - ond eto 60 mlynedd yn 么l doedden nhw'm yn meddwl am y ffasiwn betha'."

Disgrifiad,

Bydd profion llygredd yn cael eu cynnal ar bridd yng ngerddi'r yst芒d

Yn 么l y cynghorydd lleol, Aled Morris Jones, mae'n rhaid bod y cyngor wedi gwybod am hyn ers nifer o flynyddoedd.

"Ddylai bod y profion yma wedi cael eu cynnal yn gynt. Dwi ar ddallt bo' nhw'n gwybod bod angen gwneud profion, ond doedd na'm cyllideb ar gael," meddai.

"Ond dwi'n meddwl ella 'sa fo'n well tasan nhw wedi cael cyllideb.

"Doedd na'm un cynghorydd yn gwybod am y mater yma tan wythnos i ddydd Mercher diwethaf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Llinos Medi, mae'r profion yn cael eu cynnal am fod eu cais am arian gan y llywodraeth wedi bod yn llwyddiannus

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys M么n, Llinos Medi nad ydyn nhw wedi "eistedd ar ddim un broblem".

"Roedd Llywodraeth Cymru wedi agor pot o arian yn ystod yr haf yn rhoi cyfle i bob un awdurdod yng Nghymru roi ceisiadau i mewn," meddai.

"'Da ni di rhoi cais i mewn a 'di bod yn ffodus iawn o dderbyn yr arian.

"Dio ddim yn rhywbeth oedd angen ei wneud - does 'na ddim risg, does 'na ddim problem. Arian allanol sydd 'di dod ar gael a 'da ni 'di gwneud y defnydd gora' o hwnnw."

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Hyd yma, mae preswylwyr tua 70 o'r 120 o dai wedi cytuno'n ffurfiol i'r cyngor gymryd samplau o'u gerddi.

Fe fydd y gwaith hwnnw'n digwydd yn Rhagfyr ac Ionawr, gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad i'r cyngor ym mis Mawrth.

Ond ar 么l trafod y sefyllfa gyda thrigolion, mae'r Cynghorydd Jones yn galw am un cam ychwanegol.

"Dwi'n gwybod bod swyddogion y cyngor wedi bod yn ymweld hefyd ac mae fy nghyd-gynghorwyr wedi bod yn ymweld," meddai.

"Ond dwi'n meddwl r诺an bod hi'n bwysig ein bod ni'n cael cyfarfod cyhoeddus yn fuan, achos mae hynny'n ffordd arall i'r cyhoedd gal gwybod be' sy'n mynd 'mlaen."