麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Emily Tucker

  • Cyhoeddwyd
Emily Tucker

Yr actores Emily Tucker (Sioned ar Pobol y Cwm) sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan Amy Wadge.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dysgu dawnsio tap ar 么l gwylio'r ffilm Easter Parade.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Johnny Depp fel Captain Jack yn ffilmiau Pirates of the Caribbean!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Troi lan yn hwyr i ragbrawf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Disney
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gwallt clymog ac eye-liner Captain Jack wedi cael cryn argraff ar nifer o ferched...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Pan oedd fy Mam-gu yn s芒l iawn yn yr ysbyty.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rhegi!!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pontarddulais - dyna lle mae fy nheulu'n byw.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ym Manceinion pan gwrddes i 芒 fy sboner.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Sbort, penderfynol a ffyddlon.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fy hoff lyfr yw The Other Boleyn Girl a fy hoff ffilm yw Forrest Gump.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Efallai fod Emily yn treulio llawer o'i hamser yn cerdded y stryd yma yng Nghwmderi, ond Pontarddulais sydd agosaf at ei chalon

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Fy Mam-gu a fu farw pan ges i fy ngeni.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i saith tat诺.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Bwyta pryd o fwyd anferth a gwneud sky-dive.

Beth yw dy hoff g芒n a pham?

Bohemian Rhapsody gan Queen - wrth gwrs!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Pat猫, fillet steak medium rare a carrot cake.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Emilia Clarke yn Game of Thrones!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn ffodus, fel Cymraes, mae Emily wedi hen arfer bod yng nghwmni draig

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Rhydian Bowen Phillips