'Dim angen' newid trefn ethol arweinydd

Disgrifiad o'r llun, Mick Antoniw yw Cwnsler Cyffredinol Cymru

Byddai defnyddio'r un system i ethol arweinydd nesaf Llafur Cymru a welodd Jeremy Corbyn yn cael ei ddewis yn arweinydd Llafur yn gamgymeriad, yn 么l un o gefnogwyr Mr Corbyn yng Nghymru.

Dywedodd Mick Antoniw y byddai cadw'r system bresennol yn cadw cysylltiad y blaid gyda'r undebau llafur.

Cafodd Jeremy Corbyn ei ethol drwy ddefnyddio sustem Un Aelod, Un Bleidlais (OMOV), ond yng Nghymru mae'r coleg etholiadol yn cael ei ddefnyddio, gyda thri gr诺p - aelodau etholedig, undebau llafur ac aelodau cyffredin - yn cael yr un pwysau yn yr etholiad.

Nid yw Carwyn Jones wedi dweud pryd y bydd yn rhoi'r gorau i fod yn arweinydd, ond mae Llafur Cymru wedi bod yn ymgynghori yngl欧n 芒 newid y rheolau neu beidio.

Er gwaetha' awgrym y byddai mabwysiadu system OMOV yn help i sicrhau bod cefnogwr Corbyn yn dod yn brif weinidog, dywedodd Mick Antoniw - Cwnsler Cyffredinol Cymru - y byddai newid yn gwanhau'r blaid.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Jeremy Corbyn ei ethol drwy ddefnyddio sustem Un Aelod, Un Bleidlais

'Newid Seisnig, Llundeinig...'

Mewn erthygl bersonol ar wefan Labour List, dywedodd Mr Antoniw: "Mae bygwth dod 芒'r coleg etholiadol i ben er mwyn dewis arweinydd a'i ddirprwy yn gallu gwanhau a thanseilio ein cyfeillgarwch hanesyddol gyda'r undebau llafur.

"Mae'n ddealladwy bod temtasiwn i'r chwith o fewn Llafur i alw am fabwysiadu'r newidiadau i reolau Llafur Cymru gan gredu y byddai'n arwain at ganlyniad tebyg yma.

"Rwy'n anghytuno. Byddai dileu'r coleg etholiadol a lleihau ein cysylltiad cryf gyda'r undebau, er mwyn y potensial o elw tymor byr, yn tanseilio cryfder Llafur Cymru a'i allu i gynrychioli pobl a chymunedau Cymru.

"Yn fy marn i byddai gosod newid Seisnig, Llundeinig ar Gymru yn gwanhau cryfder Llafur yng Nghymru."

Ymatebodd Darren Williams, sy'n ysgrifennydd mudiad Gwreiddiau Llafur Cymru (sy'n gefnogol i Jeremy Corbyn): "Rwy'n synnu ac wedi fy siomi os yw e (Mr Antoniw) yn cefnogi coleg etholiadol yn hytrach nag OMOV.

"Rwy'n parchu Mick ac mae gen i ffydd lwyr yn ei ddidwylledd, ond mae rhai o'r bobl sy'n cefnogi'r coleg etholiadol yn gwneud hynny am eu bod yn ei weld fel y ffordd orau o rwystro ymgeisydd sydd yn gefnogol i Corbyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru y byddai pwyllgor gwaith y blaid yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar newidiadau posib i reolau'r blaid yng Nghymru y tro nesaf y bydd yn cwrdd.