Llywodraeth Cymru yn galw am allu rheoli trethi hedfan

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi rheolaeth i Gymru dros drethi hedfan, wrth i "dystiolaeth annibynnol newydd" ganfod y bydd datganoli o fudd i dde Cymru a de-orllewin Lloegr.

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n penderfynu faint o dreth sy'n cael ei dalu ar hediadau i gwsmeriaid o Gymru, tra bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu torri cost hediadau pellter hir drwy leihau'r Doll Teithwyr Awyr.

Gofynnodd Carwyn Jones pam fod gan yr Alban y p诺er yma os nad oedd Cymru.

Ychwanegodd hefyd mai "nid cynllun i gymryd teithwyr o feysydd awyr eraill oedd hyn, ond i gynyddu'r galw yng Nghymru".

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y galwadau "ar 么l ystyried yr effaith ar feysydd awyr cyfagos yn Lloegr".

Cynyddu nifer teithwyr

Mae ymchwil ar gyfer gweinidogion Cymru wedi awgrymu y byddai diddymu trethi hedfan yn costio 拢1m i Lywodraeth Cymru, ac y gallai nifer y teithwyr drwy Faes Awyr Caerdydd gynyddu o 62,000.

Fe allai hynny, yn ogystal 芒 chamau eraill i ddatblygu llwybrau hedfan newydd, arwain at gynnydd o 50% yn nifer y teithwyr erbyn 2025.

Disgrifiad o'r fideo, Carwyn Jones: 'Llywodraeth i ddileu'r dreth hedfan os yw'n cael ei ddatganoli'

Wrth s么n am y gwaith annibynnol gan gwmni Northpoints, dywedodd Mr Jones fod y dystiolaeth newydd yn "chwalu unrhyw gamsyniadau ac yn cyflwyno achos economaidd cryf iawn dros roi rheolaeth i Gymru dros Doll Teithwyr Awyr".

Mae'r dystiolaeth annibynnol yn awgrymu y byddai'r newid yn niweidiol i faes awyr Bryste, ond na fyddai'r effaith yn fawr iawn mewn gwirionedd.

'Manteision i'r economi'

Yn sgil y newid mae Llywodraeth Cymru yn credu byddai datganoli ac yna gostwng y Doll Teithwyr Awyr yng Nghymru yn arwain at fanteision sylweddol i econom茂au de Cymru a de-orllewin Lloegr, ac yn cynnig mwy o ddewis i deithwyr y ddau ranbarth.

Fe wnaeth dros 1.3 miliwn o bobl ddefnyddio Maes awyr Caerdydd yn 2016 - cynnydd o 16% yn nifer y teithwyr.

Daeth cadarnhad hefyd gan gwmni hedfan Qatar Airways eu bod yn lansio teithiau o Faes Awyr Caerdydd i'r Dwyrain Canol yn 2018.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu y gallai nifer y teithwyr o Faes Awyr Caerdydd gynyddu 50% erbyn y flwyddyn 2025 petai'r dreth hedfan yn cael ei diddymu

Ychwanegodd Mr Jones: "Wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol ein bod yn gallu hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang a chefnogi twf yn ein sector hedfan a'r economi yn ehangach.

"Ar 么l i'r doll gael ei datganoli, byddai Llywodraeth Cymru yn gostwng neu hyd yn oed yn dileu'r dreth a delir ar hediadau - gan nid yn unig fod yn fanteisiol i deithwyr, ond hefyd roi hwb mawr i Faes Awyr Caerdydd a'r diwydiant hedfan yng Nghymru, yn dda i Faes Awyr Bryste ac yn darparu gwasanaeth mwy cystadleuol.

"Edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda Llywodraeth y DU i wireddu hyn. Byddai parhau i wrthod datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn wyneb tystiolaeth mor gryf yn dangos diystyrwch enbyd a fyddai'n gwahaniaethu Cymru, yn cyfyngu ar ein gallu i hyrwyddo Cymru dramor ac yn tanseilio ein buddion economaidd."

Gwrthod datganoli

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi edrych yn fanwl ar ddatganoli hawliau hedfan yng nghytundeb G诺yl Ddewi ar ddatganoli pwerau i Gymru.

"Fe wnaethom egluro ein sefyllfa yn glir ar y mater y llynedd," meddai llefarydd.

"Ar 么l edrych ar effeithiau datganoli hawliau hedfan ar ardaloedd cyfagos yn Lloegr ble mae meysydd awyr, rydym wedi gwrthod datganoli trethi hedfan i Gymru."