Cyfarfod trawsbleidiol i drafod aflonyddu rhywiol

Disgrifiad o'r llun, Bydd arweinwyr trawsbleidiol yn cwrdd ddydd Mawrth yn y Cynulliad i drafod strwythurau yngl欧n 芒 honiadau o aflonyddu rhywiol

Bydd arweinwyr yn trafod yn ddiweddarach sut mae'r Cynulliad yn mynd ati i ymdrin 芒 honiadau o aflonyddu rhywiol.

Mae arweinwyr y pleidiau a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi trefnu cyfarfod i drafod y mater ddydd Mawrth.

Daw hyn ychydig ddyddiau wedi i weinidog yng nghabinet Llywodraeth y DU golli ei swydd yn dilyn cyhuddiadau am ei ymddygiad.

Mae ymchwiliad hefyd i gyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb AS.

'Gorchymyn ymchwiliad'

Mae Carwyn Jones wedi galw cyfarfod wedi nifer o gyhuddiadau yn erbyn ASau.

Disgrifiad o'r llun, Mae Carl Sargeant wedi pwysleisio ei fwriad i "adfer ei enw da" wedi cyhuddiadau yn erbyn ei ymddygiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod Mr Sargeant wedi'i "ryddhau o'i swydd," er i Mr Sargeant - sydd wedi pwysleisio byddai'n gwneud popeth i adfer ei enw da - ddweud ei fod wedi cynnig camu i'r neilltu.

Fe wnaeth arweinwyr y pleidiau yn Llundain gwrdd ddydd Llun er mwyn ffurfio proses gwyno, sy'n annibynnol rhag unrhyw ymyrraeth bleidiol yn San Steffan.

'Amgylchedd iach i ferched'

Dywedodd Mr Jones bod angen strwythur annibynnol yng Nghaerdydd, gan ddweud "na allai strwythurau yn y Cynulliad ymddangos yn wannach na'r rheiny yn San Steffan."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Rydym yn ymrwymo i weithio gyda phart茂on eraill, sefydliadau a'r cyfryngau i greu amgylchedd iach i ferched yng ngwleidyddiaeth Cymru, lle gall unigolion fod yn rhydd i wneud cyfraniad heb ofni aflonyddu rhywiol neu ymddygiad amhriodol.

"Rwy'n gobeithio gallai'r cyfarfod arwain at atebion trawsbleidiol rhagweithiol, gyda'r bwriad i gynnig bod y camau hynny'n cynnwys camau i ddiogelu staff a gweithwyr yn y Cynulliad."

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi gorchymyn adolygiad o ganllawiau cyfredol y Cynulliad

Bydd unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, Kirsty Williams hefyd yn mynychu'r cyfarfod ddydd Mawrth.

Mae Elin Jones wedi gorchymyn adolygiad o ganllawiau cyfredol y Cynulliad wedi iddi ddweud ei bod eisiau i ddioddefwyr deimlo bod eu cwyn yn cael eu cymryd o ddifri'.

Ychwanegodd bod gan Gynulliad Cymru "fesurau diogelu cynhwysfawr ar waith".

Mae'r Cynulliad wedi dweud nad oes cwyn swyddogol o aflonyddu rhywiol wedi'i wneud yn erbyn unrhyw un o'r ACau.

'Dim honiadau'

Yn y cyfamser mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud nad oedd wedi gweld unrhyw honiadau o aflonyddu rhywiol yn erbyn AC o'i blaid ei hun.

Dywedodd Andrew RT Davies na ddylai ymddygiad o'r fath gael ei ganiat谩u o gwbl.

"Yn y 10 mlynedd dwi wedi bod yn Aelod Cynulliad, ac o'r 10 mlynedd yna, yn y chwech a hanner dwi wedi bod yn arweinydd, dwi erioed wedi cael digwyddiad yn cyrraedd fy nesg i, boed hynny gan aelod o staff neu Aelod Cynulliad o'r gr诺p Ceidwadol ble roedd angen edrych i'r mater ymhellach," meddai Mr Davies.

Ychwanegodd: "Mae angen gofod er mwyn i bobl allu codi'r pryderon sydd ganddyn nhw."

Roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts yn bresennol yn y cyfarfod nos Lun, a dywedodd fod angen proses annibynnol i edrych i'r mater.

"Dwi'n meddwl fod unrhyw ddynes o fy oed i sydd wedi bod yn y gweithle mewn gwahanol swyddi wedi profi rhyw lefel o aflonyddu rhywiol," meddai.

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn esgusodi unrhyw blaid, mae angen i'r pleidiau gael strwythurau iawn ar gyfer yr 21ain Ganrif yn eu lle."

Dywedodd fod Plaid Cymru wedi adolygu eu strwythurau bellach, a'u bod "yn well nag oedden nhw".