'Cwestiynau' i'r prif weinidog am ddiswyddo Sargeant

Disgrifiad o'r llun, Roedd Carl Sargeant wedi bod yn AC dros Alun a Glannau Dyfrdwy ers 2003

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn wynebu cwestiynau yngl欧n 芒 diswyddo'r cyn-weinidog Carl Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw ddydd Mawrth.

Y gred yw fod y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau wedi lladd ei hun.

Dywedodd un AC Llafur wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod "cwestiynau ar gyfer y prif weinidog am hyn", tra bod un arall wedi dweud bod "cwestiynau yngl欧n 芒'r mater o ddyletswydd i ofalu".

Mae cyn-archwilydd ar safonau ym mywyd cyhoeddus wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i ddiswyddiad Mr Sargeant, oedd yn AC Alun a Glannau Dyfrdwy.

Y gred yw fod cyfreithiwr Mr Sargeant wedi ysgrifennu at Lafur Cymru dros y penwythnos yn gofyn am fanylion am yr honiadau yn ei erbyn.

Mae Llywodraeth Cymru a Llafur Cymru wedi cael cais i wneud sylw.

'Taflu i ffau'r llewod'

Roedd hi'n edrych fel bod y pwysau a'r Mr Jones yn cynyddu ddydd Mercher gyda AS Llafur blaenllaw yn galw am ymchwiliad annibynnol, ond yna yn newid ei meddwl.

Fore Mercher mewn cyfweliad radio gyda'r 麻豆官网首页入口 fe wnaeth Dawn Butler AS ddweud fod angen ymchwiliad annibynnol i'r modd y gwnaeth Llafur Cymru ddelio gyda honiadu erbyn Carl Sargeant.

Dywedodd Ms Butler, llefarydd Llafur dros fenywod a chydraddoldeb yn San Steffan, nad oedd "yn swnio bod popeth ddylai fod wedi digwydd, wedi digwydd".

Ond yn ddiweddarach fe gyhoeddodd hi ddatganiad yn dweud ei bod wedi astudio'r achos yn fwy meddwl a'i bod nawr yn credu "fod y broses cywir wedi ei dilyn, gan gynnwys sicrhau nad oedd enwau y rhai oedd yn gwneud yr honiadau yn cael eu datgelu".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi clywed am yr honiadau yn gynnar yr wythnos diwethaf

Er hyn, mae un AC Llafur anhysbys ym Mae Caerdydd wedi dweud fod yna "gwestiynau am y broses gafodd ei ddilyn".

"Yr amheuaeth yw mai penderfyniad gwleidyddol oedd ei ddiswyddo o'r cabinet.

"Does gen i ddim problem 芒 hynny, ond roedd hi'n anghywir i gymysgu'r ddau beth."

'Pryder mawr yn y gr诺p'

Dywedodd hefyd bod Damian Green, dirprwy'r Prif Weinidog Theresa May, wedi cael aros yn ei r么l tra'i fod dan ymchwiliad gan Swyddfa'r Cabinet.

"Mae hi'n anodd deall pam y cafodd Carl ei daflu i ffau'r llewod," meddai'r AC Llafur, gan ddweud bod Mr Sargeant wedi cael ei "ynysu heb i unrhyw benderfyniad gael ei wneud am ei euogrwydd".

"Mae pryder mawr yn y gr诺p am y ffordd y mae hyn wedi cael ei drin," meddai.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi clywed am yr honiadau yn gynnar yr wythnos diwethaf.

Fe wnaeth staff o'i swyddfa, ond nid gweinidogion sifil, siarad 芒'r menywod a chyfeirio'r mater at Lafur Cymru, wnaeth ddechrau ymchwiliad.

Disgrifiad o'r llun, Mae llyfr o gydymdeimlad i Carl Sargeant wedi ei agor yn y Cynulliad

Fe wnaeth Mr Sargeant gyfarfod Mr Jones ddydd Gwener, ac fe gafodd ei ddiswyddo a'i wahardd o'r blaid.

Ar y pryd dywedodd Mr Sargeant ei fod yn awyddus i glirio'i enw, ac nad oedd yn gwybod natur yr honiadau yn ei erbyn.

Mae'n debyg nad oedd dal yn gwybod fore Mawrth yngl欧n 芒 natur yr honiadau.

'Gwewyr difrifol'

Disgrifiad o'r llun, Mae yna gwestiynau difrifol i'w gofyn, meddai'r newyddiadurwr Martin Shipton

Mewn cyfweliad ar raglen Good Morning Wales ar 麻豆官网首页入口 Radio Wales, dywedodd prif ohebydd y Western Mail, Martin Shipton: "Fy nealltwriaeth i yw fod Carl Sargeant mewn gwewyr difrifol am nad oedd yn gwybod beth oedd yn ei wynebu, a bod hynny wedi arwain at ddod 芒'i fywyd i ben - sy'n hollol drychinebus ac enbydus.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn iawn i boeni am hyn a bydd yna gwestiynau difrifol."

Yn ogystal 芒 bod yn newyddiadurwr, mae Mr Shipton yn swyddog undeb llafur.

Dywedodd nad oedd yn gallu dychmygu amgylchiadau lle byddai unigolyn yn cael ei ddiswyddo am gamymddygiad difrifol, heb wybod beth oedd yr honiadau yn ei erbyn.

Dywedodd hefyd mai'r tebygrwydd oedd fod Carwyn Jones eisiau symud Mr Sargeant o'r cabinet er mwyn dod ag aelodau newydd o'r Gr诺p Llafur i mewn, a bod pethau wedi eu drysu gan yr honiadau.

Ychwanegodd, o dan amgylchiadau arferol, y sefyllfa fyddai fod rhywun yn camu o'u r么l tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal, a phetai'r unigolyn yn cael ei brofi'n ddieuog, byddai'n cael dychwelyd i'r r么l honno.

Gwersi i'w dysgu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Syr Alistair Graham ei bod yn "bwysig bod gwersi'n cael eu dysgu"

Mae cyn-archwilydd ar safonau ym mywyd cyhoeddus, Syr Alistair Graham, hefyd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus.

Dywedodd wrth raglen Wales Live bod Llywodraeth Cymru'n anghywir i ddiswyddo Mr Sargeant heb ddatgelu'r manylion am yr honiadau yn ei erbyn.

"Mae hi'n anffodus na gafodd wybod am natur yr honiadau ac na gafodd y cyfle i'w hystyried yn ofalus a pharatoi amddiffyniad yn eu herbyn cyn i'r penderfyniad gael ei wneud gyntaf oll i'w ddiswyddo fel gweinidog a'i wahardd o chwip Llafur," meddai.

"Mae'n bwysig bod gwersi'n cael eu dysgu pan fo rhywun yn colli eu bywyd yn y ffordd benodol, anffodus yma.

"Byddai'n synhwyrol i ofyn i berson annibynnol, efallai cyfreithiwr profiadol, i gynnal arolwg o sut gafodd hyn ei drin gan Lywodraeth Cymru a'r Blaid Lafur."

Wales Live, 22:30 ddydd Mercher, 麻豆官网首页入口 One Wales