'Dim dewis' ond diswyddo Carl Sargeant medd Carwyn Jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gwneud datganiad emosiynol i'r cyfryngau yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Wrth annerch y cyfryngau ym mhencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays dywedodd Mr Jones nad oedd dewis ganddo ond diswyddo Mr Sargeant.

"Doedd gen i ddim dewis ac rwy'n gobeithio bydd pobl yn deall hynny."

Pwysleisiodd Mr Jones bod proses gyfreithiol i'w ddilyn ac y byddai yn amhriodol iddo wneud unrhyw sylwadau pellach.

Daeth y sylwadau yn dilyn cyfarfod o Aelodau Cynulliad Llafur ym Mae Caerdydd, wrth i'r pwysau arno gynyddu yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Cwestiynau yn parhau

Dywedodd y Prif Weinidog "bod y rhain yn ddyddiau tywyll iawn i'r Cynulliad ac yn bennaf i deulu Mr Sargeant."

Ychwanegodd fod llawer o gwestiynau yn parhau ac "mae teulu Mr Sargeant yn haeddu cael atebion."

Fe roddodd deyrnged hefyd "i'w gyfaill".

"Mae Cymru wedi colli person cynnes, yn llawn gallu a charisma...Roedd Carl yn rym o natur" meddai.

Fe wrthododd y Prif Weinidog ateb unrhyw gwestiynau yn dilyn y datganiad.

Disgrifiad o'r fideo, 'Dwi ddim yn meddwl fod unrhyw un yn credu fod datganiad Carwyn Jones yn ddigonol," meddai Vaughan Roderick

Ymateb Llafur yn y Cynulliad

Fe gyhoeddwyd datganiad hefyd gan y gr诺p Llafur yn y Cynulliad: "Heddiw fe gawsom gyfle i gwrdd er mwyn cofio Carl. Mae pob un ohonom yn y gr诺p Llafur yn cael trafferth dygymod 芒 cholli ein ffrind a'n cydweithiwr.

"Rydym wedi colli un o'r bobl fwyaf caredig ac ysbrydoledig y gallwch obeithio ei gyfarfod.

"Roedd yn ffrind mawr i ni gyd yma, ac i gymaint o bobl ar draws Cymru. Roeddem yn falch i alw Carl yn ffrind."

Beirniadaeth

Mae'r feirniadaeth o ymateb Carwyn Jones yn parhau.

Yn 么l arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig mae angen ymchwiliad annibynnol.

Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae nifer o honiadau difrifol wedi ymddangos yn ystod yr oriau diwethaf gan y cyn-weinidog Llafur, Leighton Andrews, yn son am ddiwylliant o fwlio wrth galon llywodraeth Lafur Carwyn Jones.

"Mae'r holl bennod drasig... wedi tanseilio hyder yn y Prif Weinidog a'r Blaid Lafur ac mae'n rhaid cynnal ymchwiliad annibynnol mor fuan 芒 phosib."

Dywedodd un o Gynghorwyr Llafur Sir y Fflint, Bernie Attridge, y dylai'r Prif Weinidog ymddiswyddo.

"Dyw e dal heb wneud y peth iawn. Byddaf yn brwydro am gyfiawnder i fy ffrind."

Mae UKIP yn y Cynulliad wedi dweud y dylai Mr Jones ystyried ei sefyllfa. Maen nhw wedi galw am ymchwiliad annibynnol.

Ymchwiliad

Mae'r cyn weinidog Llafur Leighton Andrews, wedi ategu'r alwad am ymchwiliad annibynnol.

Yn 么l Mr Andrews: "Mae nifer o gwestiynau yn parhau ac mae angen ymchwiliad annibynnol i ymddygiad y Prif Weinidog".

Roedd yna feirniadaeth hefyd o gyfeiriad arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Mae methiant y Prif Weinidog i ateb cwestiynau ar 么l galw cynhadledd i'r wasg yn annigonol o gofio difrifoldeb y sefyllfa" meddai.

Mae nifer o gwestiynau heb eu hateb - ac mae pawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau yma yn haeddu cyfiawnder - yn enwedig y teulu."