麻豆官网首页入口

'Dim modd i Lafur barhau ag ymchwiliad i honiadau'

  • Cyhoeddwyd
Diweddaraf Sargeant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ymddiswyddo

Fydd hi ddim yn bosib parhau ag ymchwiliad i honiadau fod y diweddar AC, Carl Sargeant, wedi cyffwrdd yn amhriodol 芒 menywod, medd un AC Llafur.

Y gred yw fod Mr Sargeant wedi lladd ei hun ychydig ddyddiau ar 么l iddo gael ei ddiswyddo fel ysgrifennydd cymunedau a chael ei wahardd o'r blaid Lafur.

Bydd cwest yn agor ddydd Llun, ac mae disgwyl ymchwiliad annibynnol i'r modd y deliodd y Prif Weinidog gyda'r sefyllfa.

Ond dywedodd AC Llafur Dwyrain Abertawe, Mike Hedges, wrth raglen Sunday Supplement 麻豆官网首页入口 Radio Wales na fydd modd i ymchwiliad Llafur i'r honiadau fynd yn ei flaen.

"Dim ond tri pheth y gall y Blaid Lafur ei wneud," meddai.

"Fe all atal rhywun dros dro, ei geryddu, neu ei waharadd.

"Does dim modd cymryd un o'r camau hyn yn erbyn Carl Sargeant.

"Felly mae'n rhaid i ymchwiliad y Blaid Lafur ddod i ben oherwydd mai dim ond yn erbyn aelodau Llafur y mae modd cymryd y camau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mike Hedges nad oedd modd parhau ag ymchwiliad Llafur i'r honiadau yn erbyn Carl Sargeant

Cafodd Mr Sargeant, AC Alyn a Dyfrdwy ei ganfod yn farw bedwar niwrnod wedi i'r Prif Weinidog ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru, yn dilyn honiadau ei fod wedi "cyffwrdd yn amhriodol" 芒 nifer o fenwyod.

Cyhoeddodd Mr Jones y bydd ymchwiliad yn edrych ar y modd y deliodd gyda'r honiadau yn erbyn Mr Sargeant a'r hyn ddigwyddodd wedyn.

Mae disgwyl i gwest i farwolaeth Mr Sargeant agor yn Rhuthun ddydd Llun.

Ymchwiliad gwahanol?

Galwodd Cerys Furlong, prif weithredwr elusen cyfleoedd cyfartal Chwarae Teg am ymchwiliad a fyddai'n cael ei gynnal "mewn ffordd ychydig yn wahanol"

"Rwy'n ymwybodol o'r teimladau a fedra i ond ddychmygu sut mae'r dioddefwyr honedig yn teimlo ar hyn o bryd," meddai.

"Ond, o ystyried yr amgylchiadau, mae'n rhaid i ni symud ymlaen mewn ffordd ychydig yn wahanol."

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, nad oedd yn credu y byddai Mr Jones yn ymddiwyddo fel Prif Weinidog yn dilyn y feirniadaeth o'r modd y deliodd 芒 diswyddiad Mr Sargeant.

Roedd yna ddyfalu y byddai'r Prif Weinidog yn ymddiswyddo, ond dywedodd Mr Gething: "Does neb wedi gofyn i mi am ddyfodol Carwyn a dwi'n bendant ddim yn mynd i ddyfalu.

"Dwi ddim yn ei weld e'n digwydd o gwbl."