麻豆官网首页入口

Dim ceisiadau am rai swyddi athrawon medd ffigyrau

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau sy'n dangos bod mwy o hysbysebion am swyddi dysgu na'r cyflenwad o athrawon yn bryder i undeb dysgu.

Ers 2007 mae nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu wedi cynyddu 9.4%, ond mae 18.6% yn llai o geisiadau wedi bod.

Mae Undeb Athrawon Cymru wedi dweud ei bod hi'n mynd yn "fwyfwy anodd recriwtio a chadw athrawon".

Ond mae Llywodraeth Cymru'n mynnu bod cyfradd swyddi athrawon gwag Cymru yn gymharol isel.

'Problemau'n lleol'

Dangosodd y ffigyrau bod o leiaf 14 o swyddi athrawon gafodd eu hysbysebu yng Nghymru llynedd wedi methu a denu unrhyw geisiadau.

Mae'r data, sy'n cofnodi'r cyfnod rhwng mis Ionawr a Rhagfyr 2016, yn dangos nifer y swyddi gafodd eu hysbysebu a'r ceisiadau ar gyfer pynciau gwahanol fesul awdurdod lleol.

Roedd chwech neu fwy o'r swyddi na chafodd geisiadau ar gyfer ysgolion yn Nhorfaen.

Ar gyfartaledd mae 19 o bobl yn gwneud cais ar gyfer un swydd yn Abertawe, o'i gymharu 芒 3.5 yng Ngheredigion.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod swyddi dysgu'r Gymraeg ymhlith y pynciau gyda'r nifer isaf o geisiadau.

Swyddi dysgu addysg gorfforol oedd yn denu'r nifer fwyaf o geisiadau, gyda chyfartaledd o 15.9 o geisiadau ar gyfer bob swydd.

Ond Cymraeg oedd un o'r pynciau lle'r oedd llai o bobl wedi gwneud cais (3.5), gyda Chemeg (4.1), Bioleg (4.5), a Ffiseg (4.6) hefyd yn denu llai o geisiadau.

Dywedodd Undeb Genedlaethol Addysg Cymru bod y ffigyrau yn "anffodus ddim yn annisgwyl".

Dywedodd swyddog polisi'r undeb, Owen Hathway: "Does dim amheuaeth bod cynnydd mewn llwyth gwaith, toriadau i gyflogau athrawon a phensiynau, a'r pwysau sydd ynghlwm 芒'r r么l yn ei gwneud hi'n fwyfwy anodd recriwtio a chadw athrawon.

"Dydyn ni ddim mewn sefyllfa argyfyngus yng Nghymru.

"Ond yn bendant os nad ydyn ni'n gwneud mwy i ymateb i bryderon am lwyth gwaith athrawon, a chodi hyder y proffesiwn, yna mae'r ffactorau i gyd yno ar gyfer creu argyfwng."

'Anfantais'

Ychwanegodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwybod bod problemau'n gallu codi'n lleol weithiau wrth recriwtio ar gyfer rhai pynciau neu gyfnodau."

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud bod angen iddyn nhw oresgyn "yr anfantais o fod o du allan i bellter cymudo i rannau mwy poblog Cymru ar hyd coridorau'r M4 a'r A55".

Dywedodd y cyngor hefyd ei fod yn "hollbwysig" bod hyfforddiant athrawon yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Cyngor Torfaen nad oes pryderon am recriwtio athrawon yn yr ardal, a bod yr ymateb i hysbysebion swyddi yn debyg i weddill y wlad.

"Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn nifer dderbyniol o geisiadau er mwyn gwneud asesiad i'r holl swyddi sy'n cael eu cyfeirio atynt yn y data yma o Ionawr 2016 ac wedi penodi ym mhob achos," meddai llefarydd.