'Cymrawd a ffrind': Teyrngedau i Carl Sargeant

Disgrifiad o'r fideo, Roedd munud o dawelwch ar ddechrau'r sesiwn o deyrngedau

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi disgrifio marwolaeth Carl Sargeant fel "colled enfawr ac ysgytwad enbyd", wrth roi teyrnged iddo yn y Senedd.

Cafwyd munud o dawelwch yn y Siambr cyn dechrau'r sesiwn ddydd Mawrth, wrth i Aelodau Cynulliad ymgynnull am y tro cyntaf ers marwolaeth y cyn-weinidog.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones fod marwolaeth Mr Sargeant wedi "ein hysgwyd i'n seiliau".

Fe wnaeth nifer o ACau eraill ddweud gair o gofio iddo, gan gynnwys y gweinidog Lesley Griffiths a ddywedodd mai Mr Sargeant oedd ei "chymrawd a ffrind gorau".

Roedd teulu Mr Sargeant yn y Senedd i wrando ar y teyrngedau.

Wrth ddechrau siarad fe wnaeth Mr Jones fynegi ei gydymdeimlad gyda theulu Carl Sargeant, gan ddweud nad oedd yn gallu "dychmygu beth mae nhw'n mynd drwyddo".

Ychwanegodd na chafodd e a Mr Sargeant "air croes rhyngom ni yn yr holl flynyddoedd roedden ni'n 'nabod ein gilydd", gan ganmol ei sgiliau fel prif chwip yn y llywodraeth.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y Cynulliad wedi "colli cydweithiwr a cholli ffrind".

"Roedd e'n dal y swyddi yna [yn y cabinet] gyda balchder ac angerdd anferth," meddai.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod ei "ddilysrwydd" a'i gysylltiad gyda'i wreiddiau yn rhan annatod o ap锚l Carl Sargeant.

Ychwanegodd Neil Hamilton o UKIP ei fod yn "ddyn y bobl".

'Torri ein calonnau'

Cafwyd teyrnged deimladwy hefyd gan Lesley Griffiths, un o gyd-ACau Llafur Mr Sargeant yn y gogledd ddwyrain.

"Carl oedd un o'r bobl mwyaf cl锚n dwi erioed wedi'i gyfarfod," meddai.

Ychwanegodd: "Rydw i'n gwybod ei fod yn fy ngharu i fel chwaer... rydyn ni'n torri ein calonnau nad yw gyda ni bellach."

Dywedodd AC De Clwyd, Ken Skates fod gan Mr Sargeant "synnwyr digrifwch gwych".

"Beth mae e wedi'i adael i ni yw'r dyhead i edrych ar 么l ein gilydd yn well."

Ychwanegodd Alun Davies: "Y peth mwyaf amdano oedd mod i'n gallu ymddiried ynddo fe - roedd e wastad yno. Dyn diffuant ac anrhyddeddus a ffrind i fi.

"Ro'dd e'n credu'n gryf mewn chwarae teg a chyfiawnder cymdeithasol."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Alun Davies AC yn emosiynol iawn wrth roi teyrnged i Carl Sargeant

Dywedodd AC Preseli Penfro, Paul Davies ei fod "wastad yn bleser bod yn ei gwmni".

"Roedd e'n hwyl i fod gydag e ac roedd yna fflach yn ei lygad," meddai.

Ychwanegodd Simon Thomas AC ei fod yn ffrind triw ac yn gymeriad bywiog a doniol: "Roedd e'n atgoffa fi o fy nheulu i - ac yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol.

"Roedd e'n gwbl o ddifrif am yr hyn a gredai."

Ar ddiwedd y sesiwn dywedodd y Llywydd Elin Jones y bydd "gwaddol Carl yn cyffwrdd 芒 phobl ar draws y wlad am flynyddoedd i ddod".

Daeth marwolaeth Mr Sargeant bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet, yn dilyn honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda menywod.

Roedd AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Clywodd cwest ddydd Llun mai crogi oedd achos ei farwolaeth, yn 么l dyfarniad cychwynnol gan y crwner.

Mae'r prif weinidog wedi addo ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo fel ysgrifennydd cymunedau, a'i wahardd o'r Blaid Lafur.

Ers marwolaeth Mr Sargeant mae rhai cyn-aelodau blaenllaw o Lywodraeth Cymru wedi disgrifio "awyrgylch wenwynig" o fwlio tra roedden nhw yno.

Ond mae aelodau eraill o'r llywodraeth ar y pryd wedi dweud ers hynny nad ydyn nhw'n adnabod y darlun hwnnw.