Carwyn Jones 'wedi delio' ag unrhyw honiadau a godwyd

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud ei fod wedi delio gydag unrhyw gwynion am fwlio a gafodd eu gwneud yn erbyn ei swyddfa dair blynedd yn 么l.

Daeth ei sylwadau yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog, wrth iddo gael ei holi am honiadau o fwlio ac "awyrgylch wenwynig" o fewn Llywodraeth Cymru.

Brynhawn Mawrth fe arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies sylwadau oedd wedi eu gwneud gan ddau o gyn-uwch swyddogion y llywodraeth, gan ofyn a oedd gan y Prif Weinidog ymateb.

"Fe ddeliwyd gydag unrhyw faterion ddaeth i fy sylw i ar y pryd," meddai Carwyn Jones.

'Pryderon difrifol'

Roedd cwestiwn Mr Davies yn ymwneud 芒 sylwadau gan y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd arbennig Steve Jones.

Fe wnaeth ymateb Mr Jones arwain i Mr Davies honni y gallai'r Prif Weinidog fod wedi "camarwain" ACau pan ddywedodd, mewn ymateb i'r AC Ceidwadol Darren Millar ym mis Tachwedd 2014, nad oedd unrhyw honiadau o fwlio wedi eu gwneud gan ymgynghorwyr arbennig.

Mae Leighton Andrews a Steve Jones wedi mynnu fod Carwyn Jones yn ymwybodol o'r honiadau.

Mynnodd Mr Davies y dylai unrhyw gwynion o'r fath gael eu cyfeirio at gorff annibynnol, gan mai honiadau am swyddfa'r prif weinidog oedden nhw.

"Sut all pobl fod 芒 ffydd y byddan nhw'n cael eu cymryd o ddifrif, os ydyn nhw'n dewis codi'r pryderon difrifol yma gyda chi?" holodd.

Dywedodd Mr Jones y dylai hynny ddigwydd drwy broses dienw yn hytrach nag "yn llygad y cyhoedd".

Ychwanegodd: "Fe ddeliwyd gydag unrhyw faterion ddaeth i fy sylw i ar y pryd. Cafodd yr ateb hwnnw ei roi n么l yn 2014, ac mae hynny'n gywir.

"Os oes 'na unrhyw faterion mae pobl eisiau cyflwyno, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.

"Ond a chafodd unrhyw faterion gafodd eu codi i mi eu delio 芒 nhw? Yr ateb yw do, fe wnaethon nhw."

'Heb weld bwlio'

Yn gynharach yn y Siambr ddydd Mawrth cafodd teyrngedau eu rhoi i'r cyn-weinidog Carl Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Mr Sargeant wedi ei ddiswyddo o'r cabinet ddyddiau ynghynt yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol gyda menywod - honiadau yr oedd e wedi eu gwadu.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth Leighton Andrews a Steve Jones ddweud bod diwylliant o fwlio yn bodoli o fewn Llywodraeth Cymru.

Roedden nhw wedi dweud fod Mr Sargeant yn un o'r rheiny oedd yn cael ei danseilio.

Ond mae gweinidogion a chyn-weinidogion eraill gan gynnwys Mark Drakeford, Mick Antoniw a Jeff Cuthbert wedi dweud na wnaethon nhw weld arwyddion o hynny.

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd teyrngedau i Carl Sargeant ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth

Yn ystod y Cyfarfod Llawn, dywedodd y Prif Weinidog hefyd ei fod yn hynod bwysig fod amgylchiadau marwolaeth Mr Sargeant yn cael ei adrodd yn llawn "ac nid mewn rhannau".

Fe wnaeth y cwest i'w farwolaeth agor ddydd Llun, ac mae Carwyn Jones eisoes wedi dweud y bydd ymchwiliad annibynnol hefyd yn cael ei gynnal.

Ychwanegodd fod angen i wleidyddiaeth weithredu mewn ffordd wahanol, gan ddweud ei fod yn "fusnes brwnt".