麻豆官网首页入口

Teulu Sargeant: 'Dyma wythnos anoddaf ein bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Mae teulu Carl Sargeant wedi dweud eu bod wedi gorfod ymdopi 芒 "wythnos anoddaf ein bywydau" yn dilyn ei farwolaeth.

Ddydd Mawrth cafodd teyrngedau eu rhoi yn y Cynulliad i'r cyn-weinidog, gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref yr wythnos diwethaf.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod ei farwolaeth yn "golled enfawr ac ysgytwad enbyd", a dywedodd Lesley Griffiths AC ei bod wedi colli "cymrawd a ffrind".

Roedd aelodau o deulu Mr Sargeant yno yn y Senedd i wrando ar y teyrngedau.

'Diolch o waelod calon'

Mewn datganiad ddydd Mercher ar ran y teulu dywedodd mab Carl Sargeant, Jack: "Mae fy mam Bernie, fy chwaer Lucy a minnau wedi ein llorio gyda'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i gael ers marwolaeth drasig Dad ddydd Mawrth diwethaf.

"Hon oedd wythnos anoddaf ein bywydau.

"Mae'n anodd dychmygu sut y bydden ni wedi ymdopi heb gefnogaeth aelodau eraill o'r teulu, cymuned Cei Connah a ffrindiau Dad o bob cwr o Gymru.

"Rydyn ni wedi cael cymaint o negeseuon o gefnogaeth gan bobl oedd wedi cwrdd 芒 Dad unwaith, neu bobl oedd erioed wedi'i gyfarfod ond oedd yn gwybod gan eraill cymaint o ddyn caredig, gofalgar a diffuant oedd o.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd munud o dawelwch i Carl Sargeant cyn y teyrngedau ddydd Mawrth

"Mae gwybod cymaint o feddwl oedd 'na o Dad wedi helpu ni drwy'r boen.

"Roedd bod yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe - a chlywed dros ein hunain y teyrngedau twymgalon gan ei ffrindiau a'i gydweithwyr yng Nghaerdydd - hefyd yn brofiad emosiynol.

"Byddwn wastad yn trysori'r caredigrwydd mae ffrindiau a dieithriaid wedi ei ymestyn i ni yn ystod y cyfnod yma.

"Fel teulu, hoffwn ddweud 'diolch' o waelod calon."

Ymchwiliad

Yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher, fe wnaeth Theresa May a Jeremy Corbyn hefyd dalu teyrnged i Carl Sargeant.

Dywedodd yr arweinydd Llafur: "Rwy'n gobeithio y bydd y T欧 yn ymuno 芒 mi i anfon ein cydymdeimladau dwysaf i deulu a ffrindiau'r diweddar Carl Sargeant, yr Aelod Cynulliad Llafur yng Nghymru fu farw yn drasig yr wythnos diwethaf.

Mewn ymateb dywedodd y prif weinidog: "Rwy'n ymuno 芒 chi wrth gynnig cydymdeimladau i deulu a ffrindiau Carl Sargeant, a dwi'n si诺r fod hynny'n wir ar gyfer y T欧 cyfan."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd teyrngedau i Mr Sargeant yn San Steffan ddydd Mercher gan Theresa May a Jeremy Corbyn

Daeth marwolaeth Mr Sargeant bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o'r cabinet, yn dilyn honiadau o ymddwyn yn amhriodol gyda menywod.

Roedd AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Clywodd cwest ddydd Llun mai crogi oedd achos ei farwolaeth, yn 么l dyfarniad cychwynnol gan y crwner.

Mae'r prif weinidog wedi addo ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo fel ysgrifennydd cymunedau, a'i wahardd o'r Blaid Lafur.

Ers marwolaeth Mr Sargeant mae rhai cyn-aelodau blaenllaw o Lywodraeth Cymru wedi disgrifio "awyrgylch wenwynig" o fwlio tra roedden nhw yno.

Ond mae aelodau eraill o'r llywodraeth ar y pryd wedi dweud ers hynny nad ydyn nhw'n adnabod y darlun hwnnw.