'Taclo ymddygiad amhriodol mewn gwleidyddiaeth i gymryd amser'

Disgrifiad o'r llun, Mae Jayne Bryant yn dweud bod angen i bobl deimlo y gallant gwyno a gwybod y bydd rhywbeth yn cael ei wneud

Bydd delio 芒 materion o ymddygiad amhriodol mewn gwleidyddiaeth yn "cymryd amser", medd cadeirydd pwyllgor safonau y Cynulliad.

Mae'r AC Llafur Jayne Bryant yn dweud ei bod yn bwysig "cael hyn yn iawn".

Mae hi wedi cyfarfod 芒'r llywydd ac arweinwyr y pleidiau i drafod eu hymateb i honiadau diweddar o aflonyddu rhywiol.

Tra'n cael ei chyfweld ar y rhaglen Sunday Politics Wales dywedodd Ms Bryant fod yna faterion o'r fath yn bodoli "nid dim ond mewn gwleidyddiaeth ond mewn cymdeithas".

Yn ogystal 芒 datblygu polisi o barch ac urddas bydd y pwyllgor safonau yn edrych ar gryfhau sancsiynau a ellir eu gosod ar ACau sy'n torri'r cod ymddygiad.

'Rhaid cael hyn yn iawn'

"Mae'n ofnadwy o bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn," meddai Ms Bryant.

"Mae'n rhaid i ni gymryd yr amser i sicrhau ein bod yn cael y broses yn iawn, mae pawb sydd ynghlwm 芒'r materion yn haeddu hynny."

Bydd y pwyllgor safonau hefyd yn edrych ar sut y mae modd ei gwneud hi'n haws i bobl gwyno ac mae'n fwriad i sefydlu cyswllt pendant i bobl sydd am fynegi pryderon.

"Mae nifer o resymau nad yw pobl yn cwyno," dywedodd Ms Bryant.

"Dyna pam mae'n rhaid i ni greu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo'n gysurus i gwyno gan wybod y byddant yn gallu 'neud hynny yn gyfrinachol ac y bydd canlyniad hynny yn sicrhau tegwch i bawb."