麻豆官网首页入口

Gorlenwi a phrinder staff Carchar Abertawe 'yn bryder'

  • Cyhoeddwyd
Carchar Abertawe
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Carchar Fictorianaidd Abertawe yn dal 438 o bobl

Mae pryder difrifol dros ddiogelwch carcharorion a gweithwyr Carchar Abertawe oherwydd gorlenwi a phrinder staff.

Dywedodd un elusen wrth Newyddion9 bod carcharorion yn cael eu cloi yn eu celloedd dros benwythnosau cyfan yn "aml iawn" oherwydd diffyg staff.

Mae hynny'n golygu bod carcharorion yn gorfod aros yn eu celloedd o brynhawn Gwener hyd at amser cinio ddydd Llun.

Yn 么l yr elusen iechyd meddwl Hafal mae'r awyrgylch yn y carchar yn gwaethygu, ac maen nhw'n poeni bod y sefyllfa'n achosi peryg gynyddol i staff a charcharorion.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod "trawsnewid carchardai i lefydd o ddiogelwch a gwelliant yn brif flaenoriaeth" a fod "pob swydd yn llawn yng Ngharchar Abertawe."

Gorlenwi

Carchar Abertawe yw'r carchar mwyaf gorlawn yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf gorlawn yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn, yn 么l elusen The Howard League for Penal Reform.

Mae nifer y carcharorion yna wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda 438 o bobl yn cael eu cadw yn yr adeilad, er iddo gael ei adeiladu i gadw 268 carcharor.

Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos bod nifer yr achosion o hunan-niweidio a marwolaethau oherwydd hunanladdiad wedi treblu yn y tair blynedd diwethaf.

Disgrifiad,

Mae Ian Moses yn ymwelydd carchar yn Abertawe, a dywedodd bod tensiynau yn aml

Yn 么l swyddog elusen Hafal, Alun Davies, mae diffyg staff yn golygu bod carcharorion yn gorfod aros yn eu celloedd "o brynhawn Gwener hyd at fore Llun".

Ychwanegodd bod hynny'n golygu eu "bod nhw'n gorfod bwyta eu prydau bwyd yn y celloedd ac mae hynny yn achosi problemau, yn enwedig o gofio bod canran uchel o garcharorion yn dioddef o afiechyd meddwl".

Yn 么l Mr Davies does dim dwywaith bod gorlenwi yn cynyddu'r nifer o achlysuron o hunan-niweidio sy'n cymryd lle.

"Os oes problemau o fewn y carchar mae hwnna'n mynd i ymyrryd yn fwy ar iechyd meddyliol pobl ac mae'r potensial yna i achosi peryg i staff a charcharorion.

"Mae'r carcharorion eu hunain yn ofni'r rhai y maen nhw'n 'nabod sy'n gallu bod yn dreisgar o fewn y carchar, a bod y pwysau yn cynyddu ar bobl fregus iawn, ac mae'r potensial yna o hyd am broblemau."

Mae Ian Moses wedi bod yn ymwelydd carchar yn Abertawe, a dywedodd bod tensiwn oherwydd y gorlenwi.

Dywedodd Mr Moses: "'Odd shwt gymaint o bobl yna, 'odd dim lle yna, doedd dim modd troi rownd heb fwrw rhywun.

"Bydden ni ddim yn hoffi byw fel yna. A nage dim ond carcharorion oedd yn cael problemau, ond y staff hefyd.

"O'n nhw'n gorfod gweithio mewn sefyllfa felma a'r tensiwn yn uchel a cyffuriau'n cael eu defnyddio a popeth felna', odd pawb yn byw ar eu nerfau mewn ffordd."

'Taclo'r broblem'

Wrth ymateb, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod "trawsnewid carchardai i lefydd o ddiogelwch a gwelliant yn brif flaenoriaeth" a'u bod yn "taclo'r broblem".

Ychwanegodd y llefarydd bod ymgyrch recriwtio wedi rhoi hwb i lefel staffio Carchar Abertawe a fod pob swydd yn llawn yno erbyn hyn, a bod trais yno wedi lleihau ers i gamer芒u gael eu gwisgo gan swyddogion.

Dywedodd y llefarydd bod y stad ehangach o garchardai yn cael eu gwella drwy fuddsoddi 拢1.3bn a chreu lle i hyd at 10,000 o garcharorion ychwanegol.