麻豆官网首页入口

Bwlio: ACau Llafur yn galw am ymchwiliad annibynnol

  • Cyhoeddwyd
carwyn jonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn deall bod rhai Aelodau Cynulliad Llafur eisiau ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Maen nhw o'r farn mai person annibynnol ddylai edrych mewn i'r mater, yn hytrach na gr诺p trawsbleidiol.

Ddydd Mercher nesaf bydd ACau'n pleidleisio ar gynnig gan y Ceidwadwyr yn galw ar y pwyllgor trawsbleidiol sy'n ymchwilio i'r Prif Weinidog i sefydlu ymchwiliad.

Ond fe allai Llafur gyflwyno cynnig gwahanol.

'Tensiwn'

Yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, roedd y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones wedi gwneud honiadau o fwlio ac 'awyrgylch wenwynig' o fewn gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru.

Ddydd Mawrth fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd wedi derbyn "unrhyw honiadau penodol o fwlio".

Cyfaddefodd fodd bynnag fod materion wedi codi o ganlyniad i "bobl weithiau'n anhapus gyda'r ffordd roedd pethau'n digwydd".

Ychwanegodd fod "tensiwn" yn bodoli'n aml o fewn gwleidyddiaeth, gan ddweud: "Byddai'n parhau i ddelio 芒'r tensiynau hynny mewn ffordd mor deg 芒 phosib."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd ACau yn trafod cynnig y Ceidwadwyr ddydd Mercher

Roedd hefyd wedi dweud ei fod yn derbyn yr angen am fwy o graffu ar y mater.

Dyw Llafur heb benderfynu eto a fyddan nhw'n cyflwyno gwelliant i gynnig y Ceidwadwyr.

Dywedodd un AC Llafur: "Mae angen i bawb fod yn atebol i rywun.

"Ond dim pwyllgor trawsbleidiol yw'r ffordd i wneud hyn. Mae angen ffordd wahanol, person annibynnol."

'Dim ofn craffu'

Roedd aelod arall wedi dweud y dylai ymchwiliad annibynnol ddigwydd ar wah芒n i'r ymchwiliad sydd eisoes wedi ei gomisiynu i'r ffordd y cafodd Carl Sargeant ei drin.

"Mae angen eglurder ar y ddau beth [y ffordd y deliwyd 芒 diswyddo Carl Sargeant, a'r honiadau o fwlio] mewn ffordd sydd uwchlaw gwleidyddiaeth pleidiau," meddai.

"Mae angen mecanwaith i bobl mewn llywodraeth, gan gynnwys gweinidogion i ddod ymlaen heb ofni unrhyw adwaith, a bod yn gallu siarad yngl欧n ag a oedd yna ddiwylliant o fwlio.

"Byddai pwyllgor trawsbleidiol yn golygu cecru gwleidyddol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew RT Davies wedi gofyn am fwy o eglurdeb gan Carwyn Jones ar yr honiadau o fwlio

Wrth ymateb i'r syniad o ymchwiliad i'r honiadau o fwlio, dywedodd Carwyn Jones ddydd Mawrth bod sawl ffordd o ddelio gyda'r mater.

"Rydyn ni'n dal yn 么l ar ein safbwynt ar y bleidlais yr wythnos nesaf tan i ni astudio'n fanwl beth fydd hyd a lled y cynnig." meddai.

"Fodd bynnag, dwi'n derbyn fod hwn yn fater ble mae angen rhagor o graffu.

"Dwi ddim ofn y craffu yna, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig canfod beth yw'r ffordd orau i wneud y craffu yna, a dyw hynny ddim yn rhywbeth sy'n fy mhoeni i."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y dylai gwleidyddion o bob plaid "gael y cyfle i graffu ar y Prif Weinidog yn sgil yr honiadau difrifol yma".

Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod nhw'n agored i ddau opsiwn - gadael i'r Pwyllgor Craffu ar y Prif Weinidog wneud eu gwaith, a sefydlu "dyfarnwr annibynnol" hir dymor.

Cynnig

Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn mynd gerbron ACau ddydd Mercher yn darllen fel a ganlyn:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol 芒 Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn unol 芒'r amodau hyn:

1. Y dylid cynnal cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf i sefydlu ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan gyn-aelodau a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru mewn perthynas 芒 bwlio, bygwth a thanseilio Gweinidogion.

2. Y dylai'r Pwyllgor sefydlu'r canlynol fel rhan o'i ymchwiliad:

  • a) pryd y gwnaed honiadau i'r Prif Weinidog a/neu ei swyddfa;

  • b) sut yr ymchwiliwyd i'r honiadau;

  • c) pa gamau a gymerwyd o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad;

  • d) r么l y Prif Weinidog a'i swyddfa yn y broses o ymdrin 芒'r materion hyn; ac

  • e) dilysrwydd yr atebion a roddwyd gan y Prif Weinidog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas 芒'r honiadau hynny.

3. Y dylai'r Pwyllgor gymryd tystiolaeth gan dystion fel rhan o'i waith.

4. Y dylai'r Pwyllgor baratoi adroddiad ar ei ganfyddiadau i'r Cynulliad erbyn hanner tymor mis Chwefror 2018.