麻豆官网首页入口

Galw am beidio gorfodi cynghorau Cymru i gydweithio

  • Cyhoeddwyd
Debbie Wilcox
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Debbie Wilcox yn gobeithio perswadio'r ysgrifennydd cabinet i newid cynlluniau'r llywodraeth

Dylai'r llywodraeth ollwng cynlluniau i orfodi cynghorau i gydweithio, yn 么l un prif gynrychiolydd awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dywedodd Debbie Wilcox, pennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), fod angen "cyfnod newydd o ryddid a hyblygrwydd" i gynghorau.

Mewn araith yng Nghaerdydd, mae wedi galw ar yr ysgrifennydd cabinet newydd Alun Davies i roi'r gorau i gynlluniau ei ragflaenydd.

Cafodd Mr Davies ei benodi'n Ysgrifennydd Llywodraeth Leol pan gafodd y cabinet ei ad-drefnu ddechrau'r mis.

Beirniadu toriadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio pasio deddfwriaeth fyddai'n gorfodi cynghorau i gydweithio ar rai gwasanaethau.

Cafodd y cynigion hynny eu llunio wedi i Lafur gael gwared ar gynlluniau cynharach i uno cynghorau.

Ond dywedodd Ms Wilcox: "Anghofiwch am orfodi. Anghofiwch am yr angen i ddeddfwriaethu mewn 12 mis.

"Fy nghynnig i yw y dylai pob un o'r pedwar rhanbarth ddechrau trafodaethau yn syth gyda'r ysgrifennydd cabinet i drafod y ffordd ymlaen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alun Davies bellach yn gyfrifol am lywodraeth leol, oedd yn rhan o bortffolio Mark Drakeford gynt

Byddai llwyddo i osgoi cydweithio gorfodol yn fuddugoliaeth arall i CLlLC, wedi i Lywodraeth Cymru eisoes ildio ar ddiwygiadau blaenorol.

Yn y seminar fe wnaeth Ms Wilcox feirniadu llywodraethau Cymru a'r DU am doriadau - a hynny gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn y gynulleidfa.

Fe wnaeth hi gyhuddo Llywodraeth Cymru o "wleidyddiaeth datganiadau i'r wasg".

Ychwanegodd fod addewidion o wariant "ychwanegol", tra bod gwasanaethau'n dod dan bwysau cynyddol, wedi achosi "misoedd o ddryswch wrth i'r ffigyrau go iawn ddod i'r amlwg a drwgdybiaeth gynyddu".

Mewn ymateb i araith Ms Wilcox, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol i yrru gwelliannau a sicrhau fod awdurdodau a gwasanaethau allweddol Cymru'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol."

'Dim angen arbedion'

Yn y gynhadledd fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford ddweud y byddai cynghorau yn cael mwy o arian yn 2019/10, ond doedd methu rhoi ffigwr union.

O ganlyniad i newidiadau yng nghynlluniau gwario Llywodraeth y DU gafodd eu cyhoeddi yng nghyllideb y Canghellor Philip Hammond, ni fydd rhaid canfod toriadau o 拢100m yn 2019 bellach.

"Mae'n edrych i mi fel na fydd yn rhaid canfod y 拢100m yn y ffordd roedden ni wedi'i ofni," meddai Mr Drakeford.

Byddai llywodraeth leol yn derbyn rhywfaint o'r arian, meddai, ond wnaeth y gweinidog ddim manylu ymhellach.

Mae cynghorau wedi bod yn galw am fwy o arian yn ddiweddar yn dilyn pwysau cynyddol ar eu cyllideb, gyda ffynonellau yn y gynhadledd yn dweud fod cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yn un o'r prif bryderon.

Maen nhw'n dweud fod angen tua 拢60m arall ar awdurdodau lleol yn 2019/20, ond na fyddai hynny hyd yn oed yn ddigon i daclo costau cynyddol.