麻豆官网首页入口

Beth i beidio'i wisgo i ddringo'r Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Het fowler, sodlau uchel, traed noeth a fflip fflops

Gyda rhew ac eira wedi cyrraedd copa'r Wyddfa, dychmygwch y dilledyn mwyaf anaddas bosib i ddringo'r mynydd, a'r tebygolrwydd ydy fod rhywun rywbryd wedi ei wisgo i geisio cyrraedd y copa.

Dyna brofiad John Grisdale, cadeirydd t卯m achub mynydd Llanberis.

"Fysach chi'n synnu!" meddai. "Does dim dal, mae pobl yn mynd i fyny mewn bob math o ddeunydd anaddas.

"Mae 'na bobl 芒 dim crebwyll, neu ryw ynfydrwydd yn perthyn iddyn nhw, sy'n dweud 'Wel, mi drian ni hi fel hyn' fel rhyw sialens neu be' bynnag."

Er gwaethaf rhybuddion cyson, ymysg y pethau anaddas mae Mr Grisdale wedi gweld pobl yn eu gwisgo ar y mynydd ym mhob tywydd mae:

  • Het fowler

  • Sgidiau sodlau uchel

  • Fflip fflops (ie, hyd yn oed yn y gaeaf)

  • Ffrogiau ysgafn

  • Yn droednoeth

"Gen i un cof o 诺r oedd wedi cerdded i fyny a'r gwynt yn oer gan obeithio fod y caffi ar agor ar y copa gyda phlentyn bach ar ei gefn o mewn rhyw fath o pap诺s," meddai.

"Roedd y creadur bach hwnnw mewn cyflwr sobor o oer oherwydd nad oedd dad, ei hun ddim wedi darparu digon, ond yn sicr doedd y plentyn oedd jest yn gorwedd yn yr oerni ddim yn addas o bell ffordd.

"Wedyn mae 'na dristwch yn gallu codi o be' all fod wedi digwydd i'r cr'adur hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Arfon Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hyd yn oed os yw'n edrych yn braf yn y gwaelod mae'r amodau'n gallu bod yn aeafol iawn ar ben y mynydd. Dyma'r olygfa ar 27 Tachwedd 2017

Dringodd Arfon Jones i ben yr Wyddfa ddiwedd Tachwedd 2017 gan

Ond hyd yn oed bryd hynny, fe welodd bobl oedd heb wisgo'n ddigonol yn yr oerni a'r glaw.

"Roedd 'na dri hogyn yn eu hugeiniau mewn tr锚nyrs, trowsus jogio a hwdi; dim bacpac, dim 'sgidiau cerdded, dim trowsus na ch么t law na dim byd," meddai.

"Roeddan nhw'n mynd yn syth i fyny a ddim ar y llwybr.

"Ddaru ni ofyn os oeddan nhw'n iawn ac a oedden nhw eisiau'n dilyn ni ond roeddan nhw'n iawn meddan nhw.

"Neith pobl ddim dysgu, maen nhw'n meddwl mai jyst walk ydio - mae 'na gaffi a thr锚n, dydyn nhw ddim yn meddwl fod y llwybrau'n beryg a'r tywydd yn gallu newid fel'na.

"Ac maen nhw'n peryglu bywydau'r t卯m achub yn diwedd."

Tynnodd Ian Thomas gan ddweud fod yr amodau'n aeafol iawn ar y mynydd a crampons a chaib eira yn rhan hanfodol o'r cit.

Yn 么l Phil Bercow, ysgrifennydd t卯m achub Llanberis, dydyn nhw ddim eisiau dweud wrth bobl am beidio dod ar y mynydd yn y gaeaf a mwynhau, ond mae'n rhaid i bobl fod yn gwbl ymwybodol o'r amodau meddai.

"Ar hyn o bryd (diwedd Tachwedd) mae'r eira ar y mynydd yn dod lawr hyd at 400m a'r rhew hyd 100m felly mae'r copa dan rew ac eira," meddai.

"Mae na gwymp o 10 gradd yn y tymheredd rhwng y copa a throed y mynydd a hynny heb gynnwys elfennau fel y windchill a thamprwydd.

"Hyd yn oed yn yr haf fe allai fod reit braf yn Llanberis ond mi fydd hi'n oer iawn ar y top."

Yn haf 2017 aeth dyn i drafferthion ar 么l (a dim byd arall).

Ffynhonnell y llun, Nathan French
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth Nathan French yn s芒l ar 么l cyrraedd copa'r Wyddfa yn ei dr么ns Superman

Roedd Nathan French, 19, o Lerpwl yn codi arian i elusen dementia er cof am ei nain.

"Roedd yn achos clodwiw, chwarae teg," meddai Phil Benbow, ysgrifennydd y t卯m achub, "ac fe gyrhaeddodd y top.

"Ond wrth gwrs, yn galifantio ar ben yr Wyddfa yn ei dr么ns, fe aeth yn oer.

"Cyrhaeddodd ei dad gyda dillad cynnes ac aeth i lawr ar y tr锚n ac roedd rhaid iddo gael ambiwlans yn y gwaelod."

Roedd yn dangos arwyddion cynnar hypothermia meddai'r parafeddyg wnaeth ei drin, ond yn ffodus aeth adref heb orfod cael triniaeth ysbyty.

Yn 2016 deliodd y t卯m gyda 200 o ddigwyddiadau ar y mynydd - mwy nag erioed o'r blaen a nifer ohonyn nhw oherwydd fod pobl heb baratoi yn iawn.

Mae angen gwneud ymchwil cyn cychwyn meddai Phil Benbow.

"Mae rhai o'r llwybrau'n hawdd eu dilyn yn yr haf ond yn y gaeaf, dan eira, mae'r llwybrau'n diflannu.

"Y llwybr o b谩s Llanberis yw'r un hawsaf i'r copa yn yr haf ond yn y gaeaf, dyma'r llwybr mwyaf peryglus - mae'n troi'n barc sglefrio ar lethr ac mae'n hawdd llithro i lawr - mae hynny wedi arwain at farwolaethau."

Y cyngor i rywun sy'n crwydro'n uchel ar y mynyddoedd, yn arbennig yn y gaeaf, yw cael yr offer iawn.

Mae John Grisdale yn awgrymu esgidiau sy'n dal d诺r 芒 gwadn 芒 digon o grip, neu gorau oll os ydy hi'n derbyn crampons (does dim modd rhoi crampons ar dr锚nyrs ac mae welingtons hefyd yn anaddas), dillad cynnes, offer arbenigol fel crampons a chaib rhew pan mae 'na eira a rhew.

Hefyd mae fflachlamp a ff么n symudol, map a chwmpawd yn syniad da.

Ond y prif gyngor meddai John Grisdale ydy peidio 芒 mynd i gerdded ar eira a rhew o gwbl os ydych chi'n ddibrofiad, a mynd yng nghwmni rywun arall sydd 芒 phrofiad er mwyn meithrin profiad at y mynydd.

Ewch i