'Pwysau sylweddol' ar dri o ysbytai'r gogledd

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae staff Ysbyty Gwynedd yn "ei chael yn anodd darparu'r gofal y mae cleifion yn ei haeddu"

Mae staff mewn uned achosion brys yn y gogledd wedi ymddiheuro am "ei chael yn anodd darparu'r gofal y mae cleifion yn ei haeddu".

Dywedodd staff uned ddamweiniau Ysbyty Gwynedd bod rhai cleifion yn gorfod disgwyl hyd at ddau ddiwrnod am wely.

Mae rhagor o ddoctoriaid a nyrsys wedi'u galw i weithio mewn tri ysbyty - Glan Clwyd, Gwynedd a Maelor - gyda mwy o welyau hefyd wedi'u hagor.

Yn 么l Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae'r tywydd oer wedi achosi cynnydd yn nifer y bobl sy'n disgyn.

Dywedodd llefarydd bod hyn wedi ychwanegu at y cynnydd arferol yn y pwysau dros y gaeaf, a'u bod yn defnyddio rhagor o feddygon, nyrsys a gwelyau i geisio helpu cleifion.

'Mesurau ychwanegol'

Fe wnaeth t卯m uned achosion brys Ysbyty Gwynedd annog pobl i ddefnyddio meddygon teulu ac unedau m芒n anafiadau pan fo hynny'n bosib.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod oriau agor unedau m芒n anafiadau wedi cael eu hymestyn ar gyfer y gaeaf.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn "profi pwysau sylweddol ar dri o'n safleoedd, sy'n adlewyrchu pwysau'r gaeaf a'r tywydd oer".

"Rydyn ni'n cydnabod bod staff yn cael eu herio a'u bod yn darparu gofal addas i gleifion ac rydyn ni'n hynod ddiolchgar a balch o'r timau.

"Mae'n holl safleoedd yn gweithio'n galed iawn ar ofal cleifion ac rydyn ni wedi rhoi mesurau ychwanegol ar waith, gan gynnwys rhagor o ddoctoriaid a nyrsys, ac rydyn ni wedi agor mwy o welyau."