麻豆官网首页入口

Pleidleisio ar newidiadau Cymru i'r Mesur Diddymu

  • Cyhoeddwyd
Cymru a San Steffan

Fe ddylai'r gwrthbleidiau yn San Steffan gydweithio i newid deddfwriaeth Brexit er mwyn "diogelu sofraniaeth Gymreig", meddai Plaid Cymru.

Mae ASau yn barod i bleidleisio ar newidiadau i'r Mesur Diddymu sydd wedi cael eu cynnig gan lywodraethau Cymru a'r Alban ddydd Llun.

Mae gweinidogion yng Nghaerdydd a Chaeredin wedi dweud bod y mesur yn bwriadu "herwgipio" pwerau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn falch i glywed gweinidogion y DU yn cytuno y bydd angen gwneud newidiadau i'r mesur.

Ond dywedodd nad oedd ei lywodraeth mewn sefyllfa eto i gymeradwyo'r Mesur Diddymu, sy'n bwriadu trosglwyddo deddfau'r UE yn gyfreithiau'r DU er mwyn osgoi "twll du" cyfreithiol ar 么l Brexit.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu Carwyn Jones yn cwrdd ag Alun Cairns a Damian Green yng Nghaerdydd fore Iau

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi egwyddor y mesur, ond yn gwrthwynebu ei effaith bosib ar ddatganoli.

Yn benodol, y cynllun i drosglwyddo pwerau mewn meysydd datganoledig o Frwsel i San Steffan yn hytrach na Chaerdydd.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y dylai'r pwerau gael eu cynnal yn San Steffan er mwyn gallu gweithio ar fframweithiau ledled y DU mewn meysydd fel cymorthdaliadau i ffermwyr.

Cyhoeddodd pwyllgor o Aelodau Seneddol adroddiad yr wythnos ddiwethaf, oedd yn cyhuddo Llywodraeth y DU o ymagwedd "gyfansoddiadol di-deimlad" tuag at Brexit a'r llywodraethau datganoledig.

'Cytundeb yn hanfodol'

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r "geiriau cynnes" mewn trafodaeth breifat ond eisiau gweld newidiadau i'r mesur, gyda rhai o'i 38 gwelliant i'w drafod yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Llun.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fu'n cwrdd 芒 Carwyn Jones ddydd Iau, y bydd yn "hanfodol" i'r llywodraethau ddod i gytundeb ar y bil.

Yn dilyn y cyfarfod yng Nghaerdydd, a fynychwyd hefyd gan ddirprwy'r prif weinidog, Damian Green, dywedodd Mr Cairns ei bod yn arwydd o'r berthynas gadarnhaol rhwng y ddwy ochr nad oedd neb wedi s么n am eiriau fel "herwgipio" pwerau iddo ers peth amser.

Cyfeiriodd hefyd at drafodaethau ar hyn o bryd rhwng swyddogion o lywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban ynghylch gweithredu fframweithiau Prydeinig ar 么l Brexit.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dyw arfer Llafur o gwyno yn y cyfryngau ond ymatal pan ddaw i bleidleisio ddim yn ddigon da," medd Hywel Williams

Ond dywedodd Plaid Cymru y byddai'r mesur yn "normaleiddio rheolaeth uniongyrchol San Steffan, yn tanseilio sofraniaeth Cymru ac yn gosod cynsail peryglus".

Dywedodd llefarydd Brexit Plaid Cymru yn Nh欧'r Cyffredin, Hywel Williams: "Rhaid i'r gwrthbleidiau gydweithio i ddiogelu sofraniaeth Gymreig.

"Dyw arfer Llafur o gwyno yn y cyfryngau ond ymatal pan ddaw i bleidleisio ddim yn ddigon da.

"Rhaid i bob AS Llafur ymuno ag ASau Plaid Cymru wrth bleidleisio yn erbyn Llywodraeth San Steffan heno ac os bydd pob AS y gwrthbleidiau yn gwneud hynny, bydd y llywodraeth yn cael ei drechu."

Daw'r diwrnod diweddaraf o ddadlau ar y Mesur Diddymu wrth i Theresa May deithio i Frwsel ddydd Llun i gwrdd 芒 Llywydd Comisiwn yr UE, Jean-Claude Juncker.

Mae'r cyfarfod yn cael ei ystyried yn un hollbwysig os yw'r prif weinidog am gael caniat芒d arweinwyr yr UE mewn uwchgynhadledd ym Mrwsel ar 14 Rhagfyr i symud y sgyrsiau Brexit ymlaen o drafod materion gwahanu - hawliau dinasyddion yr UE, 'mesur ysgariad' y DU, a'r ffin ag Iwerddon - i berthynas fasnachu newydd.