Pwy yw'r cyfreithiwr fydd yn ymchwilio i Carwyn Jones?

  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Ai cyfreithiwr o Iwerddon fydd yn penderfynu ffawd Carwyn Jones? Prif erlynydd ei wlad oedd James Hamilton ar un adeg.

Nawr fe fydd yn rhaid iddo ymchwilio a oedd Mr Jones wedi torri'r rheolau ar gyfer gweinidogion llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n honiad difrifol. Mae'r wrthblaid yn dweud bod Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad pan ddywedodd nad oedd unrhyw un yn ei lywodraeth wedi gwneud cwyn yngl欧n 芒 bwlio.

Mewn geiriau eraill, maen nhw'n honni iddo ddweud celwydd. Byddai disgwyl i unrhyw weinidog sy'n euog o hynny ymddiswyddo.

Mae Mr Jones yn gwadu'r cyhuddiad. Ond mae am fynd gam ymhellach er mwyn dangos nad ydy e wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Mae wedi bod dan bwysau aruthrol ers diswyddo'r diweddar Carl Sargeant - un a fu'n dioddef o ganlyniad i'r bwlio, yn 么l rhai.

Edrych ar dystiolaeth

Dyletswydd James Hamilton fydd edrych ar y dystiolaeth a chyhoeddi adroddiad.

Dyw e ddim gallu rhoi'r sac i'r Prif Weinidog, ond does bosib y byddai Mr Jones yn gallu parhau'n arweinydd petai Mr Hamilton yn ei feirniadu.

Wedi ei eni yn Nulyn yn 1949, fe ddechreuodd James Hamilton - neu Jim i'w ffrindiau - ei yrfa yn 1973 fel bargyfreithiwr cyn iddo fynd i weithio yn swyddfa Twrnai Cyffredinol Iwerddon.

Fel uwch-swyddog yn y gwasanaeth sifil, cafodd weld sut mae'r gyfraith yn gallu chwarae r么l mewn sgandalau gwleidyddol.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Roedd James Hamilton yn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn Iwerddon rhwng 1999 a 2011

Tra roedd e'n gweithio yn swyddfa'r Twrnai, roedd 'na achos adnabyddus - "Achos X" - yngl欧n 芒 hawl merch ifanc i gael erthyliad ym Mhrydain.

Fe arweiniodd achos arall, yngl欧n ag estraddodi offeiriad oedd wedi'i gyhuddo o gam-drin plant, at ddymchwel y llywodraeth ar y pryd.

Yn 么l yr Athro Carol Coulter, cyn-olygydd materion cyfreithiol yr Irish Times, mae gan Mr Hamilton enw da fel rhywun annibynnol a chadarn.

"Fel cafodd ei ddatgelu yn yr achos ynghylch swyddfa'r Twrnai Cyffredinol, pan oedd yn rhaid iddo wynebu ymchwiliad seneddol, doedd byth cwestiwn yngl欧n 芒'i allu i ddelio gyda'r holl wleidyddion na gwarchod ei annibyniaeth fel gwas sifil," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl y bydd e'n ildio i unrhyw fath o bwysau."

Yn y flwyddyn 1999, cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Iwerddon - y swydd sy'n cyfateb i bennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr.

Tan 2013, roedd yn llywydd ar Gymdeithas Ryngwladol yr Erlynwyr, yn Yr H芒g.

Yn yr un flwyddyn, daeth yn ymgynghorwr annibynnol i Lywodraeth Yr Alban ar god ymddygiad eu gweinidogion nhw - yr un r么l sydd ganddo yng Nghymru nawr.

Er iddo gael ei benodi pedair blynedd yn 么l, dyw e ddim wedi ysgrifennu unrhyw adroddiadau yn Yr Alban eto.

'Dychryn'

Bydd helynt yr wythnosau diwethaf yng ngwleidyddiaeth Cymru ddim yn ei ddychryn, meddai'r Athro Coulter.

Does dim dal pwy fydd e'n holi, na faint o amser bydd e'n treulio wrth ei waith. Mae'r rheiny'n faterion iddo fe benderfynu, meddai'r llywodraeth.

Mae wedi dechrau ar ei ymchwiliad yr wythnos hon.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf

Disgrifiad o'r llun, Mae Leighton Andrews ymysg y rheiny sydd wedi dweud fod Carl Sargeant yn destun rhywfaint o'r "bwlio" oedd yn digwydd

Mae'r Ceidwadwyr yn pryderu na fydd y broses hon yn canfod y gwir. Roedden nhw eisiau i bwyllgor o Aelodau Cynulliad ymchwilio.

Ond mae Llafur wedi cwestiynu a fyddai casgliadau pwyllgor o'r fath yn ddigon diduedd.

Felly, mae'r llywodraeth wedi benthyg cod ymddygiad, yn ogystal ag ymgynghorydd, Llywodraeth Yr Alban.

Beth bynnag mae e'n dweud, a phryd bynnag ddaw hynny, bydd 'na graffu ar bob gair sy'n dod o gyfrifiadur Mr Hamilton.