AC Ceidwadol: 'Sargeant wedi cwyno yn 2014 am fwlio'

Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi dweud ei fod wedi gofyn cwestiwn yn y Senedd am fwlio o fewn Llywodraeth Cymru wedi i Carl Sargeant ofyn iddo wneud.

Dywedodd Darren Millar fod cwyn Mr Sargeant yn 2014 yn ymwneud ag ymgynghorydd arbennig oedd yn gweithio i'r llywodraeth ar y pryd.

Ychwanegodd Mr Millar mewn datganiad yn y Siambr fod y cyn-weinidog yn "anhapus" gyda'r bwlio, oedd yn cael "effaith arno fo'n bersonol".

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud yn y gorffennol na wnaeth o dderbyn "unrhyw honiadau penodol o fwlio" yn ystod y cyfnod dan sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y prif weinidog yn cadw at atebion mae eisoes wedi eu rhoi ar y mater, ac yn "annog pobl i roi unrhyw dystiolaeth berthnasol i'r ymchwilydd annibynnol, James Hamilton".

'Syndod'

Mewn datganiad dramatig yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd AC Gorllewin Clwyd ei fod yn teimlo "dyletswydd foesol" i ddweud rhywbeth am y mater.

Yn 么l un AC Llafur oedd yn bresennol, roedd awyrgylch o "syndod" yn y Siambr wrth i Mr Millar wneud ei ddatganiad.

Ar 4 Tachwedd 2014 fe wnaeth Mr Millar ofyn i'r prif weinidog yn y Senedd a oedd wedi derbyn unrhyw honiadau o fwlio gan ymgynghorwyr arbennig yn y tair blynedd diwethaf.

"Cefais gais i gyflwyno'r cwestiynau hynny gan rywun arall. Y person hwnnw oedd ein cyn-gydweithiwr yn y Cynulliad, Carl Sargeant," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Darren Millar mai Carl Sargeant oedd wedi dod ato yn gofyn iddo holi cwestiynau yn y Senedd am fwlio

Dywedodd ei fod wedi cael sgwrs breifat gyda Mr Sargeant ym mis Hydref y flwyddyn honno, a bod y gweinidog wedi dweud wrtho am "fwlio o fewn Llywodraeth Cymru".

Ychwanegodd cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy fod y bwlio yn deillio o "unigolyn o fewn swyddfa'r prif weinidog".

Wedi hynny, meddai Mr Millar, fe wnaeth Mr Sargeant ddrafftio cwestiynau iddo ofyn yn y Siambr ar y mater, ar 么l cadarnhau fod "cwyn wedi ei wneud i'r prif weinidog".

Dywedodd yr AC Ceidwadol fod Mr Sargeant "wedi synnu ac yn siomedig" pan glywodd ateb Mr Jones i'r cwestiynau.

Ychwanegodd Mr Millar nad oedd am enwi'r person oedd yn gyfrifol am y bwlio honedig, ond nad oedd unrhyw honiad fod Carwyn Jones ei hun yn rhan o'r bwlio.

Ymchwiliad

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref, bedwar diwrnod wedi iddo gael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru.

Roedd y cyn-ysgrifennydd cymunedau wedi ei gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol 芒 menywod, honiad a wadodd.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe wnaeth y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones honni fod bwlio ac "awyrgylch wenwynig" o fewn gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae Carwyn Jones wedi dweud fod "tensiynau" yn bodoli o fewn y llywodraeth, ond na chafodd unrhyw "honiadau penodol o fwlio" eu gwneud

Dywedodd Mr Jones yr wythnos ddiwethaf nad oedd erioed wedi delio gydag unrhyw "honiadau penodol o fwlio" o fewn Llywodraeth Cymru.

Roedd hynny'n ategu'r ateb a roddodd i gwestiwn Darren Millar ar y mater yn 2014.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod Mr Jones yn cadw at yr atebion y mae eisoes wedi eu rhoi.

Mae Mr Jones bellach wedi cyfeirio ei hun at ymchwiliad annibynnol ar wah芒n, wedi'i arwain gan y cyn-gyfreithiwr James Hamilton, fydd yn edrych i beth roedd yn ei wybod am honiadau o fwlio.

Dywedodd Mr Millar ei fod yn awyddus i gyflwyno'i dystiolaeth i ymchwiliad Mr Hamilton.