Rheoleiddwyr yn cymeradwyo adweithydd niwclear Wylfa

Mae rheoleiddwyr wedi rhoi cymeradwyaeth swyddogol i gynllun yr adweithydd niwclear fydd yn cael ei ddefnyddio yng ngorsaf b诺er Wylfa Newydd ar Ynys M么n.

Fe wnaeth y Swyddfa Reoleiddio Niwclear (ONR) gadarnhau bod yr Uwch Adweithydd D诺r Berw yn addas i gael ei adeiladu yn y DU.

Mae cwmni Horizon yn cynnig adeiladu a gweithredu'r cynllun ar safle Wylfa Newydd ac ar safle Oldbury yn Sir Gaerloyw.

Mae'r penderfyniad yn golygu fod y ffordd nawr yn glir i'r cwmni gyflwyno cais cynllunio ar gyfer Wylfa Newydd yn 2018.

Fe fydd asesiadau'r rheoleiddwyr yn cael eu defnyddio gan y cwmni fel rhan o'u cais am drwydded amgylcheddol.

Bwriad Horizon yw gofyn i lywodraeth y DU am ganiat芒d datblygu ar gyfer y safle ar Ynys M么n yn chwarter cyntaf 2018.

Dywedodd llefarydd ar ran Horizon eu bod yn "croesawu'r cyhoeddiad" a gallai'r datblygiad "greu degau o filoedd o swyddi ac yn y pen draw byddant yn darparu mwy na 5.4GW o drydan gl芒n, diogel a fforddiadwy - digon i bweru tua 10 miliwn o gartrefi".

'Cam arwyddocaol'

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o'r broses asesu.

Dywedodd eu Cyfarwyddwr Gweithredol dros Ogledd a Chanolbarth Cymru, Tim Jones: "Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yngl欧n 芒'n canfyddiadau cychwynnol, rydym wedi dod i'r casgliad bod y dyluniad ABWR y DU yn dderbyniol.

"Byddwn yn awr yn gweithio ar yr asesiadau manwl o'r hawlenni, trwyddedau a'r caniat芒d y bydd angen i Horizon Nuclear Power gael yn eu lle er mwyn adeiladu Wylfa Newydd."

Dywedodd Prif Arolygydd Niwclear ONR, Mark Foy, bod cwblhau'r asesiad "yn gam arwyddocaol".

"Rydym eisoes yn gweithio ar ein hasesiad o gais Horizon am drwydded safle ac ar ddatblygiad achos diogelwch safle-benodol er mwyn symud ymlaen, maes o law, gydag adeiladu a gweithredu'r adweithyddion hyn yn Wylfa Newydd."