AC UKIP wedi ei wahardd rhag siarad yn y Senedd

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Gareth Bennett ei ethol i'r Cynulliad yn 2016

Mae AC UKIP Canol De Cymru, Gareth Bennett wedi ei wahardd rhag cymryd rhan mewn trafodaethau yn y Senedd ar 么l sylwadau a wnaeth mewn trafodaeth am y gymuned drawsryweddol.

Fe wnaeth Mr Bennett wrthod ymddiheuro na thynnu ei eiriau yn 么l ar 么l y sylwadau a wnaeth yn ystod trafodaeth ddydd Mawrth.

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, fod rhai o'r sylwadau yn "arbennig o gas tuag at y gymuned drawsryweddol".

Ychwanegodd na fyddai'n cael ei alw i siarad yn 2018 oni bai ei fod yn tynnu ei sylwadau yn 么l.

Roedd yr AC yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar gynnig gan Lywodraeth y DU yn Nh欧'r Cyffredin fyddai'n gwneud y broses gyfreithiol o newid rhyw yn haws.

Wrth wahardd Mr Bennett, dywedodd Ms Jones:. "Dyw'r Siambr hon ddim yn llwyfan i fychanu dinasyddion Cymru. Mae pawb yn haeddu ein parch ac ein dealltwriaeth."

'UKIP yn lleiafrif hefyd'

Mewn ymateb fe wrthododd Mr Bennett ymddiheuro na thynnu ei sylw yn 么l.

"Does gen i ddim bwriad i ymddiheuro am y sylwadau mae'r Llywydd wedi tynnu sylw atynt am nad ydw i'n credu eu bod yn anseneddol mewn unrhyw ffordd," meddai Mr Bennett wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

"Byddai'n symudiad tuag at golli rhyddid barn pe byddwn yn ymddiheuro amdanynt.

"Dydw i ddim yn edifar gair ohono, ac ni fyddwn yn addasu'r hyn ddywedais."

Ychwanegodd arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton bod "UKIP yn lleiafrif, sydd 芒 hawliau sydd angen eu hamddiffyn hefyd".

'Hawliau democratiadd'

Dywedodd Mr Hamilton fod Mr Bennett wedi ceisio "gwneud pwynt o ddadl a thrafodaeth" a bod ei sylw wedi eu cyfeirio at fesur oedd gerbron T欧'r Cyffredin.

"Rwy'n credu pe na allwn yn y Siambr hon drafod materion y mae bwriad eu cyflwyno yn Nh欧'r Cyffredin yna mae'n lleihau hawliau democrataidd pobl Cymru," meddai Mr Hamilton.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, fod rhai o'r sylwadau yn "arbennig o gas"

Gofynnodd i Ms Jones amlinellu'r geiriau oedd wedi pechu.

Dywedodd y Llywydd fod Mr Bennett wedi gwneud sylw yngl欧n 芒 rhai oedd yn "gwyro o'r norm".

Fe geisiodd Mr Hamilton ymyrryd unwaith yn rhagor, ond fe benderfynydd y Llywydd ei anwybyddu gan symud i'r pwnc nesaf.