Drakeford yn ennill gwobr Gwleidydd y Flwyddyn Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Drakeford wedi bod yn delio 芒 thrafodaethau Brexit ar ran Llywodraeth Cymru

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi'i enwi'n Wleidydd y Flwyddyn Cymru yn y gwobrau blynyddol.

Fe wnaeth y beirniaid ganmol y ffaith ei fod wedi "meistroli portffolio sylweddol", a delio 芒 thrafodaethau Brexit a threthi newydd.

Cafodd Eluned Morgan ei henwi'n AC y Flwyddyn, gyda'i chyd-aelod Llafur Carolyn Harris yn ennill AS y Flwyddyn.

Enillydd Ymgyrchydd y Bobl y Flwyddyn oedd Irfon Williams, fu farw ym mis Mai ar 么l arwain ymgyrch hir i geisio gwella'r ddarpariaeth cyffuriau canser i gleifion yng Nghymru.

Ben Lake, gafodd ei ethol yn AS Plaid Cymru dros Geredigion eleni, gafodd wobr y Gwleidydd i'w Wylio.

Ymgyrchu

Fe gafodd y Farwnes Morgan, sy'n AC dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ei chanmol am ymgyrchu dros economi wledig Cymru.

Roedd Ms Harris yn rhan o dair ymgyrch fawr - ar ffioedd claddu plant, anghyfartaledd pensiynau i fenywod, a thaclo peiriannau gamblo fixed odds.

Cafodd enillwyr y gwobrau, sydd yn eu 13eg blwyddyn, eu dewis gan banel o arbenigwyr ar gyfer ITV Cymru, wedi'i gadeirio gan gyn-bennaeth 麻豆官网首页入口 Cymru, Geraint Talfan Davies.

Mae cyn-enillwyr y brif wobr yn cynnwys cyn-Ysgrifennydd Cymru a'r gweinidog Brexit, David Jones (2016), arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood (2015), ac Ysgrifennydd Cymru ar y pryd Stephen Crabb (2014).