Cynllun Lag诺n Abertawe yn 'ddibynnol ar y ffigyrau'

Ffynhonnell y llun, TLP

Mae ysgrifennydd Cymru wedi rhybuddio bod cynllun morlyn llanw Bae Abertawe yn dibynnu ar ei werth am arian.

Dywedodd Alun Cairns wrth ASau bod cymeradwyo'r prosiect 拢1.3bn yn "ddibynnol ar y ffigyrau".

Roedd Mr Cairns yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn dilyn adroddiadau bod brwdfrydedd Llywodraeth y DU am y cynllun yn pylu.

"Mae'n rhaid iddo ddangos gwerth am arian, ac ni ddylai unrhyw un ohonom ni ei eisiau os nad yw'n dangos hynny," meddai.

"Yn y pendraw, trethdalwyr sy'n gorfod talu amdano.

"Dy'n ni'n gwneud popeth yn ein gallu i geisio sicrhau ei fod yn cydymffurfio ond mae'n rhaid iddo fod yn ddibynnol ar y ffigyrau yn y pendraw, neu eich etholwyr chi, fy etholwyr i a buddsoddiad mewn busnes fydd yn talu'r pris."

Ffynhonnell y llun, TLP

Fe wnaeth Mr Cairns dderbyn ei fod wedi bod yn "gefnogwr brwd" o'r lag诺n, gan ddweud bod y ffaith fod y llywodraeth wedi rhoi caniat芒d cynllunio iddo yn dangos eu bod eisiau gwireddu'r cynllun.

Fis diwethaf fe wnaeth dros 100 o fusnesau lofnodi llythyr yn galw ar y prif weinidog i roi 拢1.3bn i'r cynllun morlyn llanw cyn gynted 芒 phosib.

Yn gynharach eleni fe wnaeth adroddiad gan gyn-weinidog ynni'r DU, Charles Hendry, awgrymu cymeradwyo'r prosiect.

Ond dyw Llywodraeth y DU, wnaeth gomisiynu'r adroddiad hwnnw, ddim wedi ymateb i'r canfyddiadau.