麻豆官网首页入口

Cadarnhau Mandy Jones fel AC newydd i olynu Nathan Gill

  • Cyhoeddwyd
mandy jonesFfynhonnell y llun, Twitter/Nathan Gill

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC wedi cadarnhau mai Mandy Jones o blaid UKIP fydd yn cymryd lle Nathan Gill fel yr aelod rhanbarthol dros ogledd Cymru.

Fe wnaeth Mr Gill ymddiswyddo fel Aelod Cynulliad ddydd Mercher.

Er iddo gael ei ethol fel aelod rhanbarthol i gynrychioli UKIP, fe adawodd gr诺p UKIP yn y Cynulliad a bu'n aelod annibynnol ers hynny.

Pan ddaw sedd ranbarthol yn wag yn y Cynulliad, mae'r Llywydd yn hysbysu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y rhanbarth dan sylw.

Lle daeth y sedd yn wag o achos ymddiswyddiad Aelod y cafodd ei ethol o restr ymgeiswyr plaid wleidyddol, mae'n ofynnol i'r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol gysylltu 芒'r ymgeisydd nesaf ar y rhestr ar gyfer y blaid wleidyddol berthnasol.

Unwaith y bydd wedi sefydlu'n ffurfiol y gall y person wasanaethu a'i fod yn barod i wneud hynny, bydd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol yn rhoi gwybod i'r Llywydd beth yw enw'r person.

Pan fydd y Llywydd yn cael gwybod yr enw, bydd y person hwnnw yn dod yn Aelod Cynulliad. Fodd bynnag, ni all wneud gwaith Aelod Cynulliad hyd nes y bydd wedi tyngu llw.

Gwnaeth y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol roi gwybod i'r Llywydd ar 27 Rhagfyr 2017 bod Mandy Jones yn fodlon i wasanaethu. Felly, cafodd ei hethol fel Aelod y Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru ar y diwrnod hwnnw.

Fe fydd Mandy Jones yn tyngu llw fel Aelod Cynulliad yn swyddfa'r Cynulliad yn y gogledd ddydd Gwener.