麻豆官网首页入口

Unedau brys ysbytai Cymru 'fel maes y gad'

  • Cyhoeddwyd
Uned frysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid i 18.3% o gleifion ddisgwyl dros bedair awr am driniaeth yn ail wythnos mis Rhagfyr

Mae unedau brys yn ysbytai Cymru'n "teimlo fel maes y gad" i staff, yn 么l Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru (CBMF).

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru'n dangos bod nifer y bobl wnaeth ymweld ag unedau brys wedi codi i 2,752 pob diwrnod ar gyfartaledd ym mis Tachwedd - 3.3% yn uwch na'r un mis yn 2016.

Dywedodd CBMF Cymru bod ysbytai'n "cael eu hymestyn yn ddifrifol".

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae ffliw a rhagor o alwadau brys dros y Nadolig wedi cyfrannu at bwysau ychwanegol y gaeaf.

'Brwydr'

Dywedodd dirprwy lywydd CBMF Cymru, Dr Robin Roop: "I staff, mae uned frys yn teimlo fel maes y gad.

"Rydyn ni'n brwydro i drin nifer cynyddol o gleifion sy'n ddifrifol wael yn ddiogel, rydyn ni'n brwydro i ganfod digon o staff i lenwi sifftiau ac rydyn ni'n brwydro i ganfod gwely gwag ar gyfer cleifion.

"Y gwir yw, er ymdrechion gorau holl staff y gwasanaeth iechyd, mae diogelwch cleifion yn cael ei beryglu yn ddyddiol.

"Dyw hi ddim yn dderbyniol bod nifer cynyddol o gleifion yn cael ei gadael ar welyau dros dro mewn coridorau, heb ofal addas."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod unedau brys yn ei chael yn anodd ymdopi "yn rhannol oherwydd cynnydd yn nifer y cleifion gyda heintiau fel ffliw a norovirus sydd angen gwely ysbyty".

Ychwanegodd bod y gwasanaeth ambiwlans wedi gweld cynnydd o 50% mewn digwyddiadau difrifol o'i gymharu 芒 chyfnod y Nadolig yn 2016, a bod gwasanaeth galwadau llai difrifol 111 wedi derbyn dwbl y galwadau roedden nhw'n ei ddisgwyl ar Ddydd Calan.

Ym mis Tachwedd dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod Cymru yn y "safle gorau posib" i ddelio gyda phwysau ychwanegol y gaeaf.

Er ei fod yn croesawu'r cynlluniau gafodd eu rhoi mewn lle gan y llywodraeth, dywedodd Dr Roop bod angen "mwy o welyau, mwy o nyrsys a mwy o ddoctoriaid" ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi gorfod gohirio'r "mwyafrif" o llawdriniaethau

Mae mwy na miliwn o bobl wedi ymweld ag unedau brys Cymru yn flynyddol am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Targed y llywodraeth yw bod 95% o gleifion yn cael eu trin o fewn pedair awr, ond dyw'r taged hwnnw ddim wedi ei gyrraedd yn y pum mlynedd diwethaf.

Mae'r ffigyrau ar gyfer ail wythnos mis Rhagfyr yn dangos bod 81.7% o gleifion wedi cael eu trin o fewn pedair awr - i lawr o 82.6% yr wythnos cyn hynny a 86.6% ddeufis ynghynt.

Mae nifer o fyrddau iechyd Cymru wedi gorfod gohirio llawdriniaethau oherwydd prysurdeb y gaeaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau'r GIG wedi bod yn paratoi ar gyfer y gaeaf ers rhai misoedd, gyda chefnogaeth 拢50m o fuddsoddiad gennym ni i'w helpu nhw i gydbwyso gwasanaethau brys a rhai oedd wedi'u cynllunio o flaen llaw.

"Mae sefydliadau lleol eisoes wedi cynllunio i leihau nifer y llawdriniaethau ar ddechrau mis Ionawr fel rhan o'r broses yma."