麻豆官网首页入口

Gwrthwynebiad i gynllun tai ar safle hen ysgol yn Llanbed

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Aled Scourfield, Newyddion 9

Mae gwrthwynebiad cynyddol i gynlluniau i godi 21 o unedau fforddiadwy ar safle hen Ysgol Gynradd Ffynnonbedr yn Llanbedr Pont Steffan a gaeodd rai blynyddoedd yn 么l.

Mae rhai o'r trigolion lleol yn dweud eu bod nhw'n amau gallu Tai Wales & West Housing i reoli'r safle ar Heol y Bryn, yn sgil problemau honedig gyda thenantiaid mewn rhannau eraill o'r dref.

Y bwriad yw dymchwel yr hen ysgol, a chodi 12 o fflatiau a naw t欧 fforddiadwy.

Mewn datganiad, dywedodd Tai Wales & West eu bod yn ffyddiog y gallan nhw dawelu pryderon pobl leol am y datblygiad.

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn ystyried y cais cynllunio ar hyn o bryd.

Gwrthwynebu dymchwel

Un o'r rhai sy'n gwrthwynebu yw Gareth Jones, sy'n dweud na ddylai'r ysgol gael ei dymchwel.

"Mae hi'n ofid i mi fod yr ysgol 'ma yn mynd i gael ei dymchwel. Mae'n debyg yn y cynllun datblygu lleol, mae'r ysgol i fod i gael ei hamddiffyn," meddai.

"Dwi ddim yn ffafrio dymchwel yr adeilad yma, gellid ei droi fe yn fflatiau."

Mae'n gwrthod y cyhuddiad fod pobl leol yn gwrthwynebu'r cynllun am fod yna fwriad i godi unedau fforddiadwy: "Dwi ddim yn credu bod hynny yn elfen o gwbl.

"Mae yna ofidiau eraill, dwysedd y traffig, gofidiau am drigolion sydd yn cael eu lleoli gan y cwmni arbennig yma."

'Dim hyder'

Un arall sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynllun yw Helen Thomas: "Mae 'da ni bryderon sut y bydd Wales & West yn rheoli datblygiad mawr fel hyn yn Llambed.

"Maen nhw eisoes yn berchen ar dai yn y dref ar Heol y Bryn a Ffordd y Gogledd.

"Does 'da ni ddim hyder y bydden nhw yn medru cefnogi'r tenantiaid... mae un neu ddau o denantiaid ddim yn cael eu rheoli a'u cefnogi yn ddigon da."

Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd Tai Wales & West: "Rydym yn cydweithio 芒 Chyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru a Hacer Developments i ddefnyddio'r safle tir llwyd gwag hwn ar gyfer tai fforddiadwy, sydd eu hangen ar bobl yn ardal Llanbedr Pont Steffan."

Mae'r cwmni yn dweud y bydd dymchwel yr adeilad yn gwneud gwell defnydd o'r safle, a bod ymgynghoriad llawn wedi ei gynnal gyda phobl leol.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod "yn brofiadol wrth ymdrin 芒 materion ymddygiad gwrthgymdeithasol" a bod eu swyddogion arbenigol "yn gweithio'n agos gydag asiantaethau perthnasol i ddatrys materion o'r fath pan fyddan nhw'n codi".

"Ar hyn o bryd yn Llambed rydym yn gweithio gyda'r heddlu, yr awdurdod lleol ac asiantaethau eraill i gymryd y camau priodol i ddelio gyda digwyddiadau sy'n cael eu hadrodd," meddai'r cwmni.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Cynhaliodd y datblygwyr ymgynghoriad 'cyn-ymgeisio' gyda'r ardal yngl欧n 芒 hen Adeilad Ysgol Ffynnonbedr, Llambed.

"Derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion gais cynllunio ddechrau mis Rhagfyr ac mae'r cais o dan ystyriaeth gan adran gynllunio'r cyngor sir ar hyn o bryd."