麻豆官网首页入口

Cartref gofal Bodlondeb, Aberystwyth yn cau am y tro olaf

  • Cyhoeddwyd
BodlondebFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Bodlondeb wedi bod yn gwneud colled o oddeutu 拢400,000 y flwyddyn

Mae cartref gofal yn Aberystwyth, oedd yn destun protestiadau i'w gadw ar agor, wedi cau ei ddrysau am y tro olaf.

Roedd Cyngor Ceredigion ond mae'n cau ynghynt gan fod y preswylydd olaf wedi gadael.

Dywedodd Catherine Hughes, aelod cabinet 芒 chyfrifoldeb dros wasanaethau cymdeithasol: "Yn dilyn y penderfyniad anodd i gau Bodlondeb, rhaid inni ddiolch i breswylwyr, teuluoedd ac aelodau staff am gydweithio i sicrhau bod trosglwyddo'r preswylwyr i'w cartrefi newydd wedi bod mor llyfn 芒 phosib.

"Mae'r staff yn y cartref wedi bod yn rhan o'r broses gyfan ac mae'r cyngor yn gweithio'n galed i sicrhau eu dyfodol yn y sector gofal yng Ngheredigion."

Mae undeb y GMB wedi bod yn brwydro i achub y cartref, ac ym mis Tachwedd y llynedd cafodd

Yn 么l y GMB mae'r penderfyniad wedi creu "bwlch mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yn y canolbarth.

Mae Bodlondeb, oedd yn cyflogi 33 o weithwyr gofal, wedi bod yn gwneud colled o tua 拢400,000 y flwyddyn.

Erbyn mis Tachwedd dim ond saith o breswylwyr oedd yn derbyn gofal.

Bu'r cyngor yn ceisio yn aflwyddiannus am ddwy flynedd i ddod o hyd i ddarparwyr preifat cyn y penderfyniad i gau.