Sicrwydd i weithwyr Airbus ar 么l i'r cwmni ennill cytundeb

Disgrifiad o'r llun, Mae un o'r awyrennau A380 yn costio 拢321m

Mae gweithwyr ar safle cwmni Airbus ym Mrychdyn wedi derbyn sicrwydd, ar 么l i'r cwmni ennill cytundeb i werthu hyd at 36 o awyrennau i gwmni awyr Emirates.

Mae'r cytundeb - sy'n werth 拢11.5bn - yn dod ychydig ddyddiau ar 么l i Airbus fygwth dod a'r gwaith o gynhyrchu'r awyren yr A380 i ben pe na bai'r cwmni yn dod i gytundeb gydag Emirates.

Cadarnhaodd Airbus ddydd Iau fod Emirates wedi ymrwymo i brynu 20 o'r awyrennau A380 gydag opsiwn o brynu 16 yn rhagor.

Mae'r cytundeb yn sicrhau gwaith yn y dyfodol i staff Airbus ar ei safle yng Nghymru.

Dywedodd Steve Turner, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol undeb Unite fod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych", gan ychwanegu: "Mae'n hwb sylweddol i hyder gweithwyr Airbus, a bydd hyn yn sicrhau swyddi ar y safle ym Mrychdyn, lle mae'r adenydd ar gyfer yr A380 yn cael eu gwneud.

"Bydd gweithwyr Airbus yn falch iawn o'r cyhoeddiad hwn ac yn gobeithio y bydd mwy o archebion yn dilyn i sicrhau dyfodol y diwydiant yn yr ardal."

Dywedodd Airbus yn gynharach yr wythnos hon, mai Emirates oedd yr unig gwmni hedfan gyda'r gallu i ymrwymo i o leiaf chwe chynllun y flwyddyn am o leiaf wyth i 10 mlynedd.

Mae un awyren A380 yn costio 拢321m.

Dywedodd y Sheikh Ahmed bin Saeed Al Maktoum, cadeirydd a phrif weithredwr Emirates: "Bydd yr acheb yma'n darparu sefydlogrwydd i linell gynhyrchu'r A380.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Airbus i wella'r awyrennau, er mwyn cynnig y profiad gorau posibl i'n teithwyr."