Cytuno ar QC i ymchwiliad Carl Sargeant

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw fis Tachwedd y llynedd

Mae teulu Carl Sargeant wedi cytuno ar benodiad QC fydd yn arwain ymchwiliad annibynnol i'r modd wnaeth Prif Weinidog Cymru ymdrin 芒'r broses o roi'r sac i AC Alun a Glannau Dyfrdwy o Lywodraeth Cymru.

Cafwyd hyd i Mr Sargeant yn farw fis Tachwedd y llynedd, bedwar diwrnod ar 么l iddo golli ei job yn y cabinet.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu eu bod yn cytuno y gallai Paul Bowen QC gadeirio'r ymchwiliad.

Fe wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru gadarnhau fod Mr Bowen wedi ei benodi.

Ffynhonnell y llun, Brick Court Chambers

Disgrifiad o'r llun, Paul Bowen QC fydd yn arwain yr ymchwiliad

"Mae'r teulu yn gobeithio y gallai'r ymchwiliad ddechrau ar unwaith ac mae cyfreithwyr yn ceisio cytuno ar ba feysydd fydd yn rhan o'r ymchwiliad," meddai llefarydd ar ran y tuelu.

Roedd y cyn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi cael ei gyfeirio at ymchwiliad gan Lafur Cymru i ymddygiad amhriodol.

Fe wnaeth Mr Jones gyhoeddi y llynedd y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal i farwolaeth Mr Sargeant yn dilyn beirniadaeth a honiadau o fwlio.

Mae yna ymchwiliad arall yn cael ei gynnal hefyd i honiadau fod y Prif Weinidog wedi camarwain y Cynulliad pan ddywedodd nad oedd neb o fewn y llywodraeth wedi cwyno am fwlio.

Mae Mr Jones yn gwadu cyhuddiadau o gamarwain.