麻豆官网首页入口

Brexit: Materion pwysig yn cael ei 'gorfodi lawr yr agenda'

  • Cyhoeddwyd
Fflagiau

Mae angytuno dros Brexit o fewn y blaid Geidwadol yn golygu fod materion pwysig yn cael ei "gorfodi lawr yr agenda", yn 么l y gweinidog sy'n trafod Brexit ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod methiant gweinidogion y DU i leddfu ofnau sydd yng Nghymru yngl欧n 芒 "chipio p诺er" yn codi cwestiynau am ei gallu i drafod Brexit gyda 27 o wledydd yr UE.

Bydd Mesur Ymadael yr UE, sy'n ymdrin 芒 chyfreithiau yn dychwelyd o Frwsel i'r DU, yn mynd o flaen T欧'r Arglwyddi ddydd Mawrth.

Mae gweinidogion y DU wedi dweud bod ymdrechion ar y gweill i gael consensws ar y manylion.

Pwrpas y ddeddf yw newid cyfreithiau Ewrop i gyfreithiau Prydeinig er mwyn sicrhau nad oes twll du cyfreithiol yn dilyn Brexit.

Mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn cytuno gyda'r syniad, ond, fel gweinidogion yn yr Alban, maen nhw wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o "gipio p诺er", gan ddweud bydd awdurdod dros bethau sydd wedi'i datganoli fel ffermio yn trosglwyddo i Lundain.

Mae newid i'r darpar-gyfreithiau gafodd ei awgrymu gan Lywodraethau Cymru a'r Alban wedi cael ei gwrthod gan ASau.

Ymweld 芒 Llundain

Mae Llywodraeth y DU wedi addo newid y mesur ar sawl achlysur, ond maen nhw'n dweud ei bod wedi methu 芒 gwneud hynny tra oedd y mater yn cael ei ddadlau yn Nh欧'r Cyffredin am fod amser wedi mynd yn drech na nhw.

Mae'r llywodraeth nawr wedi addo newid y mesur yn ystod y cyfnod y bydd yn pasio drwy D欧'r Arglwyddi.

Bydd Mr Drakeford yn teithio i D欧'r Arglwyddi ddydd Llun i friffio aelodau am ei bryderon gydag Ysgrifennydd Brexit yr Alban, Mike Russell a'r chyn-ddiplomydd Syr Emyr Jones Parry.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Mark Drakeford AC, mae hon yn broblem y mae Llywodraeth y DU wedi ei chreu eu hunain

"Mae hon yn broblem y mae Llywodraeth y DU wedi ei chreu eu hunain," meddai Mr Drakeford.

"Rydym wedi cynnig sawl ffordd iddyn nhw oresgyn y broblem y maen nhw wedi'i greu eu hunain, ac weithiau mae'n rhwystredig eu bod yn cymryd cymaint o amser i ddod at hynny.

"Y rhwystredigaeth ydy bod pethau sy'n wirioneddol bwysig i'r DU yn cael eu gorfodi i lawr yr agenda trwy roi blaenoriaeth ar anghenion y blaid Geidwadol.

"Maen nhw'n ei chael hi'n anodd cael sgwrs cywir gyda ni - cyn wedyn sgwrsio gyda 27 aelod arall o'r UE, mewn cyfres o drafodaethau llawer mwy cymhleth."

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno Mesur Dilyniant, i geisio gwarchod pwerau Cymru, i Lywydd y Cynulliad i'w hystyried.

"Rydym bellach wedi pwyso'r botwm o ran y rhan hon o'r broses," meddai Mr Drakeford.

Mae ACau eisoes wedi cefnogi'n unfrydol gynnig Plaid Cymru i gyflwyno'r Mesur Dilyniant.