麻豆官网首页入口

Annog cynghorau i dreialu ffyrdd gwahanol o bleidleisio

  • Cyhoeddwyd
PleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai cynghorau Cymru dreialu pleidleisio ar ddydd Sul a gosod blychau mewn archfarchnadoedd i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau, yn 么l gweinidog.

Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Alun Davies eisiau gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a rhoi'r hawl i bobl dramor sy'n byw yng Nghymru'n gyfreithlon i bleidleisio hefyd.

Bydd cynghorau'n cael caniat芒d i dreialu syniadau eraill hefyd, fel pleidleisio electronig a gorsafoedd pleidleisio symudol.

Dywedodd Mr Davies ei fod eisiau i etholiadau fod yn "fwy deniadol, croesawgar a thryloyw".

'Angen gwneud mwy'

Daw'r cynlluniau sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth yn dilyn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru y llynedd ar ddiwygio'r system etholiadol.

42% o'r rheiny oedd yn gymwys i bleidleisio wnaeth hynny yn etholiadau lleol Cymru ym mis Mai 2017, o'i gymharu 芒 68.6% yn yr etholiad cyffredinol fis yn ddiweddarach a 45.4% yn etholiad y Cynulliad yn 2016.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Alun Davies y gallai dulliau newydd o bleidleisio gynyddu'r nifer sy'n gwneud

"Mae democratiaeth leol am gymryd rhan," meddai Mr Davies.

"Rydyn ni eisiau cynyddu'r nifer sydd wedi cofrestru, ei gwneud yn haws i bobl daro pleidlais a rhoi'r hawl i ragor o bobl gymryd rhan."

Ychwanegodd: "Rwy'n bryderus ein bod yn gweld llawer gormod o bobl, yn enwedig pobl ifanc, heb ddiddordeb yn y broses wleidyddol.

"Mae nifer o resymau am hyn ond mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod y broses yn fwy deniadol, croesawgar a thryloyw."

'Arwain y ffordd'

Yn croesawu'r cynlluniau, dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, Jessica Blair eu bod yn "syniadau gwreiddiol i foderneiddio ein democratiaeth".

"Mae'n gyfle i Gymru arwain y ffordd gan greu system wleidyddol sy'n gweithio i bawb," meddai.

Ychwanegodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, ei bod yn "falch iawn bod pleidlais yn 16 oed gam yn nes".