麻豆官网首页入口

Parc Cenedlaethol Eryri'n trafod toriadau 拢800,000

  • Cyhoeddwyd
Eryri

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu sut y byddan nhw'n arbed bron i 拢800,000 yn dilyn toriad i'w cyllideb.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher, fe wnaeth aelodau'r awdurdod gynnig sawl argymhelliad ar sut i sicrhau arbedion o 拢788,674 erbyn 2020.

Yn ogystal 芒 chynyddu incwm drwy gynyddu prisiau parcio a gwneud arbedion effeithlonrwydd, dywedodd yr awdurdod y byddai gostyngiad mewn gwasanaeth sy'n "anorfod" yn cael effaith ar swyddi.

Daw ar 么l i brif weithredwr y parc alw'r toriadau sy'n cael eu gorfodi ar barciau cenedlaethol yn "frawychus".

Argymhellion

Mae'r awdurdod yn dweud y bydd grant Llywodraeth Cymru erbyn 2020 yn llai na'r hyn dderbyniodd yr awdurdod yn 2001.

Yn y cyfarfod ddydd Mercher, fe wnaeth yr aelodau gytuno ar dri argymhelliad:

  • Cynyddu incwm o feysydd parcio a chanolfan addysg yr awdurdod - Plas Tan y Bwlch;

  • Gwneud arbedion effeithlonrwydd yn cynnwys darparu gwybodaeth electroneg yn hytrach na phapur a chau toiledau;

  • Gostwng lefel gwasanaeth drwy leihau grantiau gwaith coed, lleihau gwariant ar hawliau tramwy cyhoeddus a lleihau gwariant ar gontractwyr.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio y bydd y mesur olaf yn "anorfod yn cael effaith ar swyddi yn yr awdurdod".

'Eithriadol o bryderus'

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Emyr Williams: "Mae'n gyfnod anodd ac yn eithriadol o bryderus i ni fel staff ac i aelodau'r awdurdod.

"Rydym ni eisoes wedi colli 40 o swyddi gwerthfawr yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, sy'n golled enfawr i ardal wledig fel hon.

"Heddiw, bu'n rhaid i ni ystyried colli mwy o swyddi a hynny er bod angen i ni gyflawni mwy r诺an nag unrhyw bryd arall yn ein hanes."

Disgrifiad,

Owain Wyn sy'n esbonio'r heriau ariannol i'r awdurdod

Dywedodd Owain Wyn, cadeirydd yr awdurdod: "Mae rhywun yn amlwg yn trio gweithio y tu 么l i ddrysau caeedig i drio dylanwadu ar y sefyllfa, ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon pendant yn dweud 'na, mae'n rhaid i chi ysgwyddo'r baich'.

"Y bechod ydy fod o'n ymddangos fod y baich yna'n drymach na rhai gwasanaethau eraill.

"Effaith hynny 'di golygu ein bod ni'n gorfod chwilio am arbedion gwerth 拢800,000 dros ddwy flynedd.

"Mae chwarter cyllideb yr awdurdod yn mynd ar y gwasanaeth mynediad a chefn gwlad ac wardeniaid yn rhan o hynny. Mae'n anochel y bydd yna edrych ar yr ochr yna'n benodol."