麻豆官网首页入口

Parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru i agor ar 1 Mawrth

  • Cyhoeddwyd
M-SParc

Fe fydd parc gwyddoniaeth cyntaf Cymru yn agor ar Ddydd G诺yl Dewi - ar amser ac o fewn y gyllideb.

Mae safle M-SParc ger Y Gaerwen ar Ynys M么n, cyfleuster gwerth 拢20m sy'n rhan o Brifysgol Bangor, yn cynnwys labordy, swyddfa a gofod gweithdy gl芒n.

Mae disgwyl i yn y sectorau carbon isel, ynni a'r amgylchedd, a Thechnoleg Gwybodaeth symud i'r safle erbyn yr haf.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr M-SParc, Ieuan Wyn Jones, mai'r bwriad yw "denu'r goreuon a'r mwyaf disglair yn y rhanbarth".

"Mae croeso i fusnesau a phrosiectau sydd eisiau datblygu eu technoleg, eu prosesau a'u hymdrechion gwyddonol eu hunain."

Bydd tenantiaid y parc yn derbyn cefnogaeth fusnes gan swyddog arbenigol er mwyn datblygu, tyfu a chyrraedd "eu potensial gorau".

Rhentu ystafelloedd a desgiau

Dywedodd Mr Jones bod y parc - sy'n is-gwmni dan berchnogaeth y Brifysgol - 芒 chwe aelod o staff: "Mae llawer ohonynt 芒 phrofiad o redeg eu busnesau eu hunain, a phob un wedi ymroi i wneud M-SParc yn llwyddiant.

"Mae'r t卯m wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni'r adeilad ar amser ac yn unol 芒'r gyllideb."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Ieuan Wyn Jones yn ymddeol yn y gwanwyn

Mae'r adeilad yn cynnwys ardal weithio, caffi a mannau cyfarfod anffurfiol ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr o'r ardal.

Bydd busnesau lleol yn cael llogi ystafelloedd cyfarfod, a rhentu desgiau mewn swyddfa am gyfnodau byr rhwng un diwrnod a mis.

Mae'n fwriad i gynnig gweithdai cyson yn yr adeilad ar gyfer yr holl gymuned fusnes, ac yn yr un cyntaf ar 5 Mawrth fe fydd y cwmni rhyngwladol Google yn rhoi cyngor i fusnesau sut i gyrraedd cwsmeriaid newydd.

Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal ar 24 Mawrth.

Tenantiaid 'rhithiol'

Yn 么l rheolwyr y parc mae'r broses o ddatblygu a chodi'r adeilad dros gyfnod o bum mlynedd wedi rhoi cyfleoedd "a all newid bywydau" i brentisiaid, myfyrwyr a disgyblion ysgol lleol.

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, bod y gwaith hyd yma "wedi bod yn drawiadol".

Ychwanegodd eu bod eisoes wedi derbyn nifer o denantiaid "rhithiol" - busnesau a mudiadau nad sydd angen presenoldeb corfforol yn yr adeilad, ond sy'n talu t芒l aelodaeth er mwyn manteisio ar wasanaethau ac arbenigedd staff y parc a'r brifysgol.

Bydd rhai o gyrsiau meistr y brifysgol, meddai, "yn cael eu teilwra i sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau y bydd cyflogwyr yn M-SParc yn chwilio amdanynt" - cam a fydd "yn mynd beth o'r ffordd tuag at lenwi'r bwlch sgiliau yn y rhanbarth".

Mae disgwyl i M-SParc benodi cyfarwyddwr newydd yn y gwanwyn ar 么l i .